Croeso

LIFE - Adfer Gorgors Fyw yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) y Berwyn a'r Migneint yng Nghymru 2006-2011

Mae'r project cyffrous hwn yn bartneriaeth rhwng Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth Amgylchedd Cymru, a Comisiwn Coedwigaeth Cymru.  Ei nod yw adfer gorgors fyw yn ACA'r Berwyn a'r Migneint yng Nghymru.  Lansiwyd y project 56 mis ar 1af Awst 2006, a sicrhawyd y mwyafswm o'r arian ar gyfer y project (75%) gan raglen LIFE-Nature yr UE.

Amcan Project LIFE Gorgors Fyw Cymru yw sicrhau gwelliant pwysig, sylweddol a pharhaol yng nghyflwr gorgorsydd mewn dwy Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) yng Nghymru, a fydd yn eu tro yn hybu gwaith tebyg yn lleol ac yn fwy eang.  Mae'r ddau safle perthnasol, ACA'r Berwyn a'r Migneint, yn ddwy o'r ACA pwysicaf o safbwynt yr orgors yn y Deyrnas Unedig.  Bydd arwynebedd mawr o orgors o fewn yr ACA yma'n elwa'n uniongyrchol o weithrediadau'r project, sy'n cynnwys cau draeniau ar raddfa fawr a difa rhywogaethau estron.  Yn ychwanegol at hyn, disgwylir i reolaeth yr orgors o fewn y ddwy ACA fel cyfanrwydd wella o ganlyniad i weithrediadau'r project.  Rhagwelir y bydd y project yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at gadwraeth gorgorsydd Cymru, yn ogystal â ledled y Deyrnas Unedig.

Er bod ardaloedd mawr o orgors yn dal i fodoli yng Nghymru, mae'r mwyafrif wedi eu diraddio'n ddifrifol o ganlyniad i goedwigaeth, lledaeniad rhywogaethau estron (megis Rhododendron Rhododendron ponticum a'r sbriwsen Sitca Picea sitchensis), gorbori, draenio, a llosgi bwriadol neu ddamweiniol.

Yn ystod 5 mlynedd project LIFE Gorgors Fyw Cymru, y bwriad yw sicrhau gwelliant sylweddol a pharhaol yng nghyflwr gorgorsydd yn ardaloedd allweddol dwy ACA yng Ngogledd Cymru.  Y ddwy ACA yw'r Migneint-Arenig-Dduallt, a Berwyn and South Clwyd Mountains.  Bydd y project hefyd yn hybu ymwybyddiaeth ac ymarfer gorau yng nghymunedau'r ardal a thu hwnt.

Bydd y project yn cynnwys:

- Cau oddeutu 90 km o ddraeniau ar ACA'r Berwyn

- Torri coed ar 300 ha o ACA'r Migneint

- Clirio Rhododendron a sbriws Sitca o 900 ha o ACA'r Berwyn

- Ail-hadu 50 ha o ACA'r Berwyn gyda grug (Calluna vulgaris)

- Creu mannau rheoli tân yn y ddwy ACA

- Prynu darn o dir ar y Migneint gyda chynefin gorgors da er mwyn gwarchod ei fywyd gwyllt ac er mwyn egluro wrth bobl leol pa mor werthfawr yw'r orgors

- Gwaith arddangos ac eiriolaeth eang gyda ffermwyr a rheolwyr tir lleol

- Gwaith allanol eang gyda chymunedau ac ysgolion lleol

- Rhannu gwybodaeth

Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith a wneir ar ACA'r Berwyn yn digwydd ar Gwarchodfa Llyn Efyrnwy yr RSPB sydd ym mherchnogaeth Dŵr Hafren Trent.

Mae Efyrnwy yn Rhagorol!

  Dyna i chi dîm!  Gweithiodd tîm addysg LIFE yn arbennig o ddygn yr haf hwn. Read More

LIFE yn Sioe Frenhinol Cymru 2010

Mae’r Project LIFE newydd ddychwelyd ar ôl treulio pedwar diwrnod prysur a llwyddiannus Read More

Gŵyl Diwrnod Rhyngwladol yr Orgors

    userfiles/Poster 2010 welsh.pdf Read More

LIFE yn Y Lapdir

  Mae project LIFE Gorgors Fyw Cymru newydd ddychwelyd o ymweliad â’r Lapdir, Y Ff Read More

Gŵyl Diwrnod Rhyngwladol yr Orgors

Read More