Gorgors Y Berwyn - Robin Hughes
Coedwig lle bu corswigen, – hen nefoedd
cynefin cornchwiglen;
hen ystâd y Lluest Wen
a nodded y binwydden.
Nodded Hafoty Cedig, Rhiwargor,
Allt Forgan, tai cerrig,
a diben go arbennig
yn y gors fawr uwchlaw’r wig.
Gwaith adfer ar y Berwyn, – i’r Fawnog
ar Fynydd Llanwddyn;
arfaeth lledaenu’r terfyn
a chau y llethr uwch y llyn.
Pydew ac argaeau newydd – heddiw
sy’n gorchuddio’r ffosydd
a blodau mannau’r mynydd
a rhos ddychwel eto’n rhydd.
Creu cynefin i’r gylfinir – a’r grug
a’r grugiar mewn corstir,
ildio erwau’r ucheldir
i fyd teg hen fywyd tir.
I fywyd yr adfywio, daw gïach,
tafod y gors eto,
her a braint ailagor bro
a hen lwybr i’w ail-lwybro.
Uchelfannau erwau’r eira, a gwewyr
gaea’n nhir Tyˆ Ucha;
amgylchfyd byd y boda
a thrydar adar drwy’r ha’.
Yno ar fawndir mynydd, – â’u gynau
gwynion dros y gweunydd,
tan y sêr eu tonnau sydd
yn hwylio erwau’r moelydd.
Hel enwau fel Moel Eunant, Blaen y Coed,
Blaen Cownwy a Dyfnant
a fydd yn etifeddiant
yn ein plwy’ yng ngof ein plant.
Robin Hughes
Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru
Published on 25/Mar/2011 Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011 Cliciwch Read MoreLIFE ar Countryfile – eto
Published on 21/Mar/2011 Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read MoreLlyn Efyrnwy i Aberdeen
Published on 21/Mar/2011 Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More







