Natur ein Bro
Drwy ein perthynas â Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) bu’r project yn ddigon ffodus i gymryd rhan yn y project Natur ein Bro. Project blynyddol yw hwn gydag ysgolion lleol dalgylch yr Eisteddfod Genedlaethol (eleni roedd yr holl ysgolion o ardal Y Bala). Ymwelodd yr ysgolion â’r Project LIFE ar lan Llyn Efyrnwy ym mis Mai a Mehefin. Yr ysgolion oedd:
Ysgol O M Edwards
Ysgol Llandrillo
Ysgol Bro Tryweryn
Ysgol y Ffridd
Ysgol y Parc
Ysgol Maes Hyfryd
Ysgol Beuno Sant
Ysgol Bro Tegid
Daeth cyfanswm o 110 o blant draw i’r project fel rhan o Natur ein Bro. Yn ystod eu hymweliad â Llyn Efyrnwy dysgodd y plant am bwysigrwydd mawnogydd i’r amgylchedd a chafwyd cipolwg ar sut mae’r project yn adfer y cynefin hwn.
Yna dychwelodd y plant i’w hysgolion i weithio gyda Bardd Plant Cenedlaethol Cymru, Twm Morys, i greu darn o farddoniaeth. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, perfformiodd y plant eu barddoniaeth arbennig yn y Babell Lên ar ddydd Sul cyntaf yr Eisteddfod.
Gwelwyd y plant ar adroddiadau S4C o’r Eisteddfod a chawsant eu crybwyll gan Gerallt Pennant ar Radio Cymru ac aelodau o staff yr RSPB a CCGC yn ystod yr wythnos.
Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru
Published on 25/Mar/2011 Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011 Cliciwch Read MoreLIFE ar Countryfile – eto
Published on 21/Mar/2011 Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read MoreLlyn Efyrnwy i Aberdeen
Published on 21/Mar/2011 Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More












