Tudalen y Plant

FAINT YDYCH CHI'N EI WYBOD AM Y RHOSTIR A'R ORGORS?

Rhowch gynnig ar y 10 cwestiwn cyffredinol hwn, yna cliciwch ar y gwaelod i lwytho'r atebion i lawr.

1 - Pa aeron sy'n tyfu ar yr orgors ac sy'n blasu'n dda gyda'r twrci adeg y Nadolig?

2 - Pa blanhigyn sy'n gorchuddio llethrau'r bryniau gyda'i borffor ym mis Gorffennaf/Awst?

3 - Beth yw dyfnder mawn yr orgors ar gyfartaledd o amgylch Llyn Efyrnwy?

a) llai na 50cm

b) 50 i 200 cm

c) dros 200cm

4 - Lle fyddech chi'n disgwyl gweld y lefel dŵr ar yr orgors?

a) Ar yr wyneb neu ychydig oddi tano

b) Oddeutu 50 cm o dan yr wyneb

c) Yn is na 50cm o dan yr wyneb

5 - A yw pH mawn yn asidaidd, yn niwtral, neu'n alcalinaidd?

6 - Pa un o'r canlynol sy'n byw ar y rhostir ar lannau Llyn Efyrnwy?

a) Grugiar ddu

b) Madfall

c) Gwesyn eurdorch

ch) Gwlithlys

d) Tylluan glustiog

dd) Llygoden bengron y gwair

e) Llyffant melyn

f) Y glöyn byw y gweundir bach

7 - Ar gyfer pa un o'r canlynol y defnyddir mawn?

a) Tanwydd

b) Compost

8 - Sawl gwahanol rywogaeth o'r mwsogl y gors Sphagnum sydd yn tyfu yn y DU?

a) 5

b) 15

c) 34

9 - Pa rywogaethau estron sy'n cael eu clirio o'r rhostiroedd ger Llyn Efyrnwy?

a) Sbriwsen Sitca

b) Rhododendron

10 - Sawl cilometr o ffosydd fydd yn cael eu llenwi ar lan Llyn Efyrnwy gan y project LIFE Gorgors Fyw dros 5 mlynedd? 

a) 25km

b) 50km

c) 91km

Cwis

LIFE ar y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol

                  Mynychodd y Read More