Cawr y Berwyn - Ysgol Beuno Sant
Roedd hi’n fore cymylog,
Ond doedd ‘na ddim glaw.
Mi gododd y dibyn
Ryw chydig o fraw.
Roedd y lôn yn garegog,
Yn gorneli i gyd;
Bob ochor i’r lôn
Roedd y cloddiau yn fud.
Roedd bŷs Williams o’r Bala
Yn rhuo fel cawr,
Ac yn y goedwig
Roedd ‘na goed ar lawr.
Roedd y defaid yn gorwedd,
Yn disgwyl – am be?
Oedd ‘na rywbeth ar ddigwydd
Rhwng daear a ne’?
Draw yn y grug
Roedd llaw fawr nerthol
Wedi gadael hoel
Ei bysedd anferthol.
Ac yn y mwsog
Roedd ôl traed mawr ian,
Ac roedd llond y tyllau
O ddŵr coch y mawn.
Ond bore braf hwnnw
Ddigwyddodd dim byd
Ond y digwydd bach bach
Fydd yn digwydd o hyd.
Y ceffylau dŵr digri
Bob amser ar frys,
Ac awel yn chwarae
 dail bach y llus.
Er tynnau ei wallt
A dawnsio ar ei gefn,
Wnaeth y Cawr ddim deffro,
Diolch i’r drefn!

Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru
Published on 25/Mar/2011 Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011 Cliciwch Read MoreLIFE ar Countryfile – eto
Published on 21/Mar/2011 Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read MoreLlyn Efyrnwy i Aberdeen
Published on 21/Mar/2011 Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More






