Daeargryn! - Ysgol Bro Tegid

Bydd plant Bro Tegid yn symud o hyd,

Yn symud lot mwy na phlant erill y byd.

Cwech ddweud y drefn, ond waeth ichi beidio:

Dal ati wnân-nhw i redeg a neidio.

Mi aeth plant Bro Tegid i’r Berwyn am dro,

A dyna chi ddiwrnod nad eith byth dros go’!

 

Rhaid troedio’n ofalus! Mae’r gors yn fyw,

Ac mae’r gors yn farus iawn, myn Duw!

Mi lyncith hi esgid, mi lyncith hi raw,

Un noson mi lyncodd hi Jac Codi Baw!

Mi lyncodd hi ddefaid – ond bu dŵr y mawn

Yn cadw eu cyrff nhw rhag pydru yn iawn;

Maen nhw’n dal i grwydro hyd y lle

Fel mymyis, yn griddfa: ‘Mê! Mê! Mê!’


Ddaru ni wrando? Wel, naddo, siŵr!

Aeth troed Chîzi Stîfi yn syth i bwll dŵr.

Roedd Jessie â gwybed yn ei gwallt,

Aeth Lŵ dibyn-dobyn i lawr yr allt.

Ac aeth H.P. Sôs i eistedd am sbel

I ganol y mwsog ar dwmpath bach del,

A dyma ‘na fyddin o forgrug blin

Yn martsio allan i’w bigo’n ei din

Mi lamodd y bechgyn, a thoc wedi hynny

Mi glywai’r genethod y ddaer yn crynu…


Aeth plant Bro Tegid i’r Berwyn, do –

Dyna chi ddiwrnod nad eith byth dros go’!

 

 

Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru

  Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011   Cliciwch Read More

LIFE ar Countryfile – eto

  Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read More

Llyn Efyrnwy i Aberdeen

  Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More