Stori Arswyd - Ysgol Bro Tryweryn

Braf ar rai yn cael mynd am dro

A’r haul yn gwenu dros fryniau’r fro!

Roedd y gwynt yn fain, ac yn chwipio’r glaw,

Roedd y niwl yn llwyd dros Arenig draw,

Roedd y bore yn llawn o gysgodion llaith

Pan gychwynnom ni ar y daith.


Mi Ddaethom i olwg Llyn Fyrnwy cyn hir,

A holi oedd y chwedl yn wir

Am y tai’n dod i’r golwg ar ôl ha’ di-law

Fel ysbryd cymdogaeth yn estyn llaw,

A dim byd i’w weld pan fo’r llyn yn llawn…

Wel, mi wyddom ni am beth felly yn iawn.


A dyma’r hen ddibyn tywyll mawr

Yn ceisio ei orau i’n tynnu ni i lawr;

A mynd drwy’r goedwig, fel mynd drwy dŷ

A bwgan yn cuddio ym mhob cornel ddu.

A Naiomi, a Lleucu a Glain,

Wel, dyna chi sgrechian wnaeth y rhain!


SGRECH!


Cyrraedd y mynydd, a’r niwl yn dopyn,

Distawrwydd yn cerdded y croen fel pry copyn,

A’r cwmwl fel haid o ysbrydion gwyn

Yn cau amdanom-ni erbyn hyn,

A’n hel tua’r pyllau mawn di-ri

I’r Berwyn GAEL EIN LLYNCU NI!

 

 

Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru

  Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011   Cliciwch Read More

LIFE ar Countryfile – eto

  Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read More

Llyn Efyrnwy i Aberdeen

  Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More