Lliwiau'r Berwyn - Ysgol Ffridd y Llyn

Bobol annwyl! Gwyn ein byd a’r haul ar hyd y cloddie’

Ar y ffordd o Ffridd y Llyn i’r Berwyn yn y bore.


Ar wib yr aethom heibio i goed na fu erioed eu gwyrddach,

A thrwy’r brige’, gweld y llyn a’i ddŵr yn wyn fel cadach.


Wedyn croesi’r argae llwyd lle boddwyd pentre bychan,

Ar ein penne’ i goedwig hen lle nad oedd lliwie’n unman.


A ninne’n dechre’ ame’ bod y coed yn wrachod cas,

Daeth lliw llawenydd dros bob man o dan yr awyr las.


A dacw ebol ar y rhiw a’i liw fel tân ar getyn,

A chwmwl llwch tu ôl i ni yn codi fel mwg melyn.


Ac o’r lle uchel, syllu’n syn ar flode’ gwyn y gweunydd

Fel botyme’ bychain del ar wasgod swell y mynydd.


Y lliwiau hyfryd a roes Duw ar lön byw ac enfys,

Fe’u gwelsom nhw i gyd o’r bron drwy’r bore gogoneddus!


Death pob un eto yn ei dro i’r co’ yn llachar iawn


Ar y ffordd i Ffridd y Llyn o’r Berwyn yn y pnawn.

Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru

  Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011   Cliciwch Read More

LIFE ar Countryfile – eto

  Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read More

Llyn Efyrnwy i Aberdeen

  Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More