Rhy Agos i'w Werthfawrogi! - Ysgol Llandrillo
Ychydig o gaeau, ychydig o goed
Sy rhyngon ni acw a’r Berwyn erioed.
Fel haul y bore, fel dŵr, fel Mam,
Mae o yno, heb inni holi pam.
Ond dyna ddarganfod wrth fynd am dro
Nad oedden ni yn ei nabod o.
Dychryn yn arw ar ymyl y dibyn:
Gwyro ffordd arall rhag ofn inni ddisgyn.
Ac wedi’r daith fyglyd ar hyd y ffordd fach
Mor braf oedd llond sgyfaint o awyr iach.
Wydden ni ddim bod ‘na goeden a’i phen
Yn chwarae ping-pong efo sêr y nen.
Wydden ni ddim bod ‘na ffisig da iawn
Yn nail y mynydd, ym mlodau’r mawn.
Wydden ni ddim, cyn gweld y plu gwyn,
Bod eira yng nghanol yr ha’ ffor’ hyn.
Hel y dail a’r blodau di-ri
Er mwyn eu dangos nhw i chi.
Da fyddai’u gosod yn ddel ar y bwrdd,
Ond mi chwythodd y gwynt nhw i gyd i ffwrdd.
Ychydig o gaeau, ychydig o goed
Sy rhyngon ni acw a’r Berwyn erioed.
A ninnau’n meddwl, os meddwl o gwbwl,
Wrth weld y Berwyn drwy’r gwydyr dwbwl,
Ein bod ni yn ei nabod o…
Wel, mi rydan ni rwan, ar ôl mynd am dro!

Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru
Published on 25/Mar/2011 Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011 Cliciwch Read MoreLIFE ar Countryfile – eto
Published on 21/Mar/2011 Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read MoreLlyn Efyrnwy i Aberdeen
Published on 21/Mar/2011 Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More






