Sŵn Distawrwydd - Ysgol Llanuwchllyn

Roedd ‘na weiddi yn y bore,

Y gloch yn bloeddio o hyd,

A thwrw’r plany yn dod drwy’r drws

Fel twrw plant y byd,

Ac mi aethon ni i’r Berwyn

A sefyll yno’n fud.


Ymhell o gyffro’r pentre,

A ffraeo gwraig a gŵr,

Ymhell o dwrw loris,

A ffôn, a pheipiau dŵr,

Yno yn y Berwyn,

Distawrwydd oedd y stŵr.


Ond yn ara’ i’r distawrwydd,

Baeth myrdd o synau bach,

Fel glaw yn llenwi landar,

Fel gwlân yn llenwi sach,

A ninnau yno’n glustiau i gyd

O dan yr awyr iach.


Y gwyn a’i chwiban yn y brwyn,

Yn sych fel reffarî,

Yn mynd a dod dros rug a mawn,

Fel tonnau mân y lli,

Yn chwarae â mwng y ceffyl gwyllt,

Ac â’m gwalltiau ni.


Cri rhyw wylan unig

Fel iaith ddiarth ar y rhos;

Sŵn dŵr fel plygu papur

Yn dod o bwll a ffos;

Sŵn glöyn byw fel babi

Yn anadlu yn y nos.


Ac wedyn sŵn cyfeillion,

A’r ha’ yn ifanc iawn,

Yn cadw reiat yn y grug

A llamu’r pyllau mawn…

Daw stori o’r distawrwydd

Yn y Berwyn, os gwrandâwn.

 

 

Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru

  Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011   Cliciwch Read More

LIFE ar Countryfile – eto

  Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read More

Llyn Efyrnwy i Aberdeen

  Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More