Y Tegeirian - Ysgol Maes Hyfryd
Mae rhaff y gorffennol yn mynd yn frau,
Lle bu deg tŷ tafarn, does heddiw ond dau,
Cyn hir bydd pob capel a siop wedi cau,
A pheidio â bod sy’n dod wedyn…
Y bore hwnnw, a haul dros y fro,
Aeth y pethau hynny i gyd dros go’
A ninnau yn cael mynd am dro
Hyd ffordd ddigyffro’r Berwyn.
Ond a’r ffordd yn mynd yn gulach o hyd,
Ac Elie Bedwell yn crynu i gyd
A’r dibyn yn debyg i grac yn y byd,
O! Dyna daro aderyn!
Roedd ‘na sôn am geffylau, ond welson ni’r un,
Na barcud, chwaith, na dafad na dyn;
Mae pawb ar y mynydd ar ei ben ei hun,
A blodyn prin yw cymydog.
A meddwl y buom am bethau’n prinhau
Pentrefi yn chwalu, neuaddau yn cau,
Ac am raff y gorffennol yn mynd yn frau,
Nes gweld y tegeirian godidog.
Mae ‘na obaith i’r holl bethau prin yn y byd
Tra mae gwyrth o beth felly i’w chael o hyd
Ar fore o ha’ yn ogoninat i gyd,
Wedi cuddio cyhyd yn y mwsog!

Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru
Published on 25/Mar/2011 Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011 Cliciwch Read MoreLIFE ar Countryfile – eto
Published on 21/Mar/2011 Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read MoreLlyn Efyrnwy i Aberdeen
Published on 21/Mar/2011 Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More






