Arwyddion - Ysgol y Parc
Mi fyddai’r Cymry ‘stalwm, oedd yn byw rhwng chwedl a ffaith,
Yn chwilio am arwyddion wrth gychwyn ar eu taith.
Ar y fford i’r Berwyn, ar fore gwych o ha’,
Bu sgwarnog yn rhedeg ras â ni: roedd hynny’n arwydd da.
Ond ar y ffordd i’r Berwyn, roedd ‘na oen yn waed yr ael,
A’r brain i gyd yn ymladd: roedd hynny’n arwydd gwael.
Wedyn yn y Berwyn, doedd dim brefu ar y bryn,
Ond ymhobman roedd plu’r gweunydd fel gwlân mân o wyn.
Roedd yno hen hen enwau, fel cân o’r amser gynt,
Carnedd y Ci a Chlochnant, Cwm Tywyll, Moel y Gwynt.
Roedd yno stalwyn claerwyn, fel ceffyl uncorn blêr,
Ac mi ddaeth i syllu arnon ni, a’i lygaid yn llawn sêr.
Roedd yno flodau bychain wrth y miloedd, ar fy llw,
Na fasai’r teithiwr talog ddim yn sylwi arnyn nhw!
Ac yno roedd y goeden fwya’ yn y byd,
A’i brig hi yn y nefoedd ar ffordd yr haul o hyd.
Ac fel y Cymry ‘stalwm, oedd yn byw rhwng chwedl a ffaith,
Mi fuon ninnau’n meddwl am arwyddion dechrau’r daith.
Yr oen bach wedi marw, a’r brain a’u pigau hir,
Ta’r sgwarnog chwim yn rhedeg ras: pa’r un oedd yn wir?
Roedd chwerthin yn y mwsog, a miri ar y mawn,
A ninnau’n gwybod, neno’r tad, mai’r sgwarnog oedd yn iawn!

Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru
Published on 25/Mar/2011 Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011 Cliciwch Read MoreLIFE ar Countryfile – eto
Published on 21/Mar/2011 Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read MoreLlyn Efyrnwy i Aberdeen
Published on 21/Mar/2011 Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More






