Adfer gorgors wedi ei choedwigo

Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar dir y Comisiwn Coedwigaeth yn ACA'r Migneint-Arenig-Dduallt.  Mae lledaeniad sbriws Sitca o'r planhigfeydd coedwigaeth i ardaloedd o orgors yn cael effaith negyddol sylweddol ar y cynefin.  Yn yr un modd, plennid Sitca ar ardaloedd o orgors dda.  Bydd y project LIFE yn torri'r Sitca o'r ddwy fath yma o ardal.  Yn yr ardaloedd targed hyn hefyd bydd draeniau'n cael eu cau, gan ddefnyddio dulliau tebyg i'r rhai sy'n cael eu disgrifio uchod ar gyfer ACA'r Berwyn.

Bydd y gwaith yma'n canolbwyntio ar ddau o safleoedd Comisiwn Coedwigaeth Cymru:

Penaran -

- torri 18 hectar o blanhigfa sbriws Sitca o'r orgors,

- torri 67 hectar o sbriws Sitca sydd wedi hadu eu hunain o'r orgors,

- cau dros 11km o ffosydd draenio o fewn yr ardaloedd wedi eu clirio,

- creu 35 o byllau o fewn yr ardal i hybu cynhaliaeth dŵr,

- pori'r safle cyfan (200 hectar) gyda bridiau brodorol o Wartheg Duon  Cymreig a merlod Mynydd Cymreig.

 

Foel Boeth -

- torri 20 hectar o blanhigfa sbriws Sitca o'r orgors,

- cau 1km o ffosydd draenio o fewn yr ardal wedi ei chlirio.

Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru

  Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011   Cliciwch Read More

LIFE ar Countryfile – eto

  Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read More

Llyn Efyrnwy i Aberdeen

  Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More