Cael gwared â rhywogaethau o blanhigion anfrodorol
Yn ystod gaeaf 2008/09 bydd y project yn cyflogi pedwar aelod newydd o'r tîm. Y gwaith a roir ar y gweill fydd clirio'n systemataidd pob coeden sydd wedi hadu ei hun ar yr orgors ar warchodfa Llyn Efyrnwy'r RSPB.
Daeth y coed yma'n wreiddiol o'r lleiniau o goniffer a blennid o amgylch y llyn o'r 1880au ymlaen. Mae gan y rhywogaethau hyn effeithiau hynod o negyddol oherwydd maent yn cysgodi rhywogaethau naturiol yr orgors ac yn cymryd dŵr o'r orgors ei hun.
Mae dwy rywogaeth o blanhigyn sy'n cael eu targedu'n benodol yn y gwaith hwn:
Sbriws Sitca: bydd y coed yma'n cael eu cwympo a'u gosod mewn ffosydd gerllaw i gynorthwyo gyda'r gwaith o gau'r ffosydd.
Rhododendron: bydd y planhigion yma'n cael eu clirio o'r safle un ai drwy eu torri, eu llusgo â pheiriant neu eu cloddio er mwyn sicrhau bod pob gwreiddyn wedi ei godi o'r ddaear. Wedi iddynt gael eu clirio o'r gors byddant yn cael eu cludo o'r safle ac yn cael eu llosgi.
Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru
Published on 25/Mar/2011 Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011 Cliciwch Read MoreLIFE ar Countryfile – eto
Published on 21/Mar/2011 Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read MoreLlyn Efyrnwy i Aberdeen
Published on 21/Mar/2011 Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More






