Cau ffosydd

Bydd ffosydd draenio yn cael eu cau ar orgorsydd ar weundir ac o'u hamgylch o fewn ACA'r Berwyn a Mynyddoedd De Clwyd.  Bydd y gwaith adfer yn digwydd dros arwynebedd o fwy na 4,500 ha, y rhan fwyaf ohono wedi ei leoli ar Warchodfa Llyn Efyrnwy'r RSPB ar dir sydd ym mherchnogaeth Hafren Dŵr Trent.

Ym mhob blwyddyn o'r project, amcangyfrifir y bydd 18km o ddraeniau yn cael eu cau gan ddefnyddio technegau amrywiol.  Bydd hyn yn arwain at gau cyfanswm o 91km o ddraeniau dros bum mlynedd y project.

Bydd y draeniau'n cael eu cau'n bennaf gyda byrnau o rug i greu argaeau.  Bydd y ffos yn cael ei llunio i ddechrau gyda chloddiwr Hymac i lunio ffurf y byrnau.  Yna gorchuddir y byrnau gyda haen o fawn a gosodir llystyfiant wyneb y tir yn ôl.  Ar lethrau nad ydynt yn serth, gosodir yr argaeau pob 5-10m ond ar lethrau mwy serth bydd y draeniau'n cael eu llenwi'n llwyr gyda byrnau o rug.  Rhaid gosod yr argaeau ar lethrau mwy serth yn ddigon agos i gyfyngu ar lif y dŵr ar hyd y ffos rhwng yr argaeau, a lleihau'r potensial i bwysau dŵr gronni y tu ôl i'r argaeau.  Yn ogystal â chodi'r lefel trwythiad, gobeithir y bydd yr argaeau hefyd yn darparu ‘pontydd' er mwyn i ddefaid groesi'r ffosydd.  Mae'r sail dros ddefnyddio argaeau grug wedi codi yn dilyn prawf dwy flynedd a roddwyd ar waith ar warchodfa'r RSPB ger Llyn Efyrnwy ac ymgynghori gyda phrojectau eraill tebyg o amgylch y DU ac Ewrop.  I greu'r byrnau ar gyfer yr argaeau, torrir grug mewn stribedi 2m o led, ar rostir sych, 5m ar y naill ochr i'r ffos neu'n agos iddi.  Bydd y grug yma'n cael ei fyrnu a'i ddefnyddio yn yr argae.

Mewn rhai lleoliadau, lle mae'r ffosydd yn fach a'r llethr yn fas, defnyddir argaeau o fawn.  Mewn ardaloedd eraill, efallai y bydd yn bosibl gwasgu ochrau'r draeniau i lawr yn hytrach na'u llenwi'n uniongyrchol.  Defnyddir argaeau plastig lle nad oes dewis arall, gan nad yw'r project yn awyddus iawn i gyflwyno deunyddiau nad ydynt yn organig i'r amgylchedd.

Mae Efyrnwy yn Rhagorol!

  Dyna i chi dîm!  Gweithiodd tîm addysg LIFE yn arbennig o ddygn yr haf hwn. Read More

LIFE yn Sioe Frenhinol Cymru 2010

Mae’r Project LIFE newydd ddychwelyd ar ôl treulio pedwar diwrnod prysur a llwyddiannus Read More

Gŵyl Diwrnod Rhyngwladol yr Orgors

    userfiles/Poster 2010 welsh.pdf Read More