Adfer

Mae'r project LIFE yn gweithredu ystod o waith adfer ymarferol i fynd i'r afael â'r bygythiadau i orgorsydd Cymru a drafodwyd eisoes.  Mae'r gwaith hwn yn cynnwys cau ffosydd draenio, clirio rhywogaethau o blanhigion anfrodorol, a thorri grug i leihau'r risg o ddifrod difrifol gan dân.

Contractwyr lleol sy'n gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith project.  Mae'r project felly o fudd i economi wledig leol ardaloedd y project.

Cewch wybodaeth am yr amrywiol weithgareddau adfer sydd ar y gweill gan y project LIFE drwy gyfrwng y dewislenni.

Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru

  Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011   Cliciwch Read More

LIFE ar Countryfile – eto

  Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read More

Llyn Efyrnwy i Aberdeen

  Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More