LIFE yn Latvia

Yn ddiweddar dychwelodd y tîm LIFE ar ôl ymweliad â Latvia i weld y gwaith a wneir gan ddau broject LIFE-Nature yno.

Siglennydd yw 4.9% o gyfanswm arwynebedd tir Latvia.  Mae siglennydd yn debyg i orgorsydd oherwydd mae’r ddau’n fawnogydd gyda lefel trwythiad uchel a chasgliadau penodol o blanhigion ac anifeiliaid.  Fe all siglennydd fod un ai’n mwnotroffig (ffen a siglennydd trosiannol) lle maent yn cael dŵr o’r ddaear (yn yr achos yma mae’r dŵr wedi bod mewn cysylltiad â phridd mwnol) neu’n ombotroffig (gorgors) lle maent yn cael eu dŵr o law fel yn ein gorgorsydd ni. Mae cloddio mawn yn parhau i ddigwydd yn Latvia felly mae llawer o siglennydd mewn cyflwr gwaeth na ffafriol o ganlyniad i ddraenio a chloddio mawn.

Y safle cyntaf i’r tîm ymweld ag ef oedd gorgors Kemeru, un o orgorsydd mwyaf Latvia a chanolbwynt y project LIFE-Nature “Kemeri - Cadwraeth gwlyptiroedd ym Mharc Cenedlaethol Kemeru” (LIFE02 NAT/LV/008496).

Mae cromen yr orgors gyfan yn 6,192 hectar, mae ei chanol 18 metr uwchben lefel y môr a’r cyrion yn 10 metr uwchben lefel y môr.  Cloddiwyd mawn ar 115 hectar o’r safle hwn hyd ddiwedd yr 1990au ac felly un o amcanion y project oedd ailsefydlu hydroleg naturiol yr orgors drwy gau ffosydd.

Mae’r ffosydd a dyllwyd ar gyfer torri mawn yn llawer mwy na’r ffosydd a dyllwyd ledled ucheldir Cymru.  Mae ffosydd torri mawn yn ddau fetr o led a hyd at 3 metr o ddyfnder. Crëwyd argaeau mawn, oddeutu 10 metr o hyd, gan ddefnyddio peiriannau cloddio yn 2006 ac maent wedi llwyddo i godi’r lefel trwythiad o 0.6 metr.

Gallwch weld o’r llun hwn bod y ffosydd yma’n llenwi’n foddhaol gyda mwsoglau migwyn.



I wybod mwy am y project hwn cliciwch yma.

Yr ail safle yr ymwelwyd ag ef oedd Gwarchodfa Natur Gorgors Cena, un o safleoedd y project ar gyfer rhoi cynllun rheolaeth cynefin yr orgors y project LIFE-Nature ar waith yn Latvia (LIFE04 NAT/LV/000196).  Mae gorgors siglen Cena yn ymestyn 2,133 hectar ac mae wedi ei dylanwadu gan ffosydd draenio a gloddiwyd ar gyfer coedwigaeth rhwng yr 1930au a’r 1990au.  Mae hefyd yn ffinio â safle cloddio mawn sy’n weithredol ar hyn o bryd.



Mae’r project hwn wedi cynnwys adeiladu argaeau mawn i gau 25km o ffosydd draenio er mwyn adfer hydroleg naturiol y safle.  Ymysg gwaith arall y project ar y safle hwn mae adeiladu llwybr pren, byrddau gwybodaeth a thŵr gwylio er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth ymwelwyr am bwysigrwydd y cynefin.



Cychwynnodd yr ail ddiwrnod gydag ymweliad â thŵr gwylio o fewn Parc Cenedlaethol Kemeru.  Yma cafodd y tîm eu cipolwg cyntaf o’r aderyn yr oeddynt i gyd yn dymuno ei weld yn Latvia, sef yr eryr môr.  Cawsant olwg dda hefyd ar foda’r gwerni a garanod.



Yna aeth y tîm ymlaen i weld cynefin siglen sy’n unigryw i Latvia, siglen ffynnon sylffwr.  Roedd yr holl lystyfiant sy’n nodweddiadol o siglen yn bresennol, yn cynnwys carpedi enfawr o figwyn, llygaeron (Vaccinium oxycoccus), creiglus (Empetrum nigrum) a gwlithlys mawr (Drosera anglica).  Yn gefndir i’r cyfan roedd arogl cryf y sylffwr!  Mae gorgorsydd ffynhonnau sylffwr yn gynefin gwarchodedig yn Latvia.



Roedd yr ymweliad olaf â Llyn Engure, safle RAMSAR, Ardal Adar Pwysig a safle Natura 2000.  Yma dilynodd y tîm lwybr pren drwy ffen galch gyfoethog a choedlan wlyb i gwr y llyn lle gwelwyd gwartheg a cheffylau gwyllt yn pori cyrion y llyn.  Cafwyd coron ar brofiadau’r daith pan hedfanodd eryr môr bendigedig heibio.



Roedd yr ymweliad yn anhygoel a dysgwyd llawer iawn am y tebygrwydd mewn adfer mawnogydd yng Nghymru a Latvia yn ogystal â’r gwahaniaethau.

Llawer o ddiolch i Māra Pakalne a’i thîm am estyn croeso twymgalon a’n darparu â chymaint o  wybodaeth.

Read More

Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru

  Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011   Cliciwch Read More

LIFE ar Countryfile – eto

  Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read More

Llyn Efyrnwy i Aberdeen

  Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More

Diogelwch da byw

  Mae ymchwil a roddwyd ar waith gan y project wedi dangos bod cau ffosydd ar yr orgors o fudd Read More

Y gwaith o gau ffosydd Efyrnwy wedi ei gwblhau!

  O’r diwedd mae’r gwaith o gau ffosydd ar gyrion Llyn Efyrnwy wedi ei gwblhau!&nb Read More