Cynnal Diwrnod Arddangos LIFE / FWAG Cymru
Published on 10/Jun/2009
Cynhaliwyd cynhadledd ar y cyd gan y Project LIFE a’r Grŵp Cynghori Ffermio a Bywyd Gwyllt, Cymru ar ddydd Mawrth 9 Gorffennaf 2009 yng Ngwesty Llyn Efyrnwy a Gwarchodfa Llyn Efyrnwy'r RSPB. Ymysg y nawdeg a phedwar o bobl a ddaeth draw roedd ffermwyr, undebau amaethyddol, cymdeithasau anllywodraethol, elusennau bywyd gwyllt a chyrff llywodraethol.
Cadeirydd y diwrnod oedd Alun Edwards, Cadeirydd FWAG Cymru ac agorwyd y digwyddiad gan yr Aelod o Gynulliad Cymru Mick Bates. Yna rhoddwyd sgyrsiau gan Dr Jared Wilson, Rheolwr y Project LIFE, sef “Cyflwyniad i Broject LIFE Adfer Gorgors Fyw Cymru”; David Jenkins, Coed Cymru, ar “Materion ehangach ynglŷn â rheolaeth tir: astudiaeth achos o Bontbren”; a theitl y brif sgwrs gan John Westlake, Llywodraeth Cynulliad Cymru, oedd “Dyfodol amaeth-amgylcheddol Cymru”.
Ar ôl cinio rhannodd y grŵp yn ddau gydag un hanner yn dringo’r mynydd i weld y gwaith o gau ffosydd a wnaed dros y gaeaf. Aeth y grŵp arall i weld y peirianwaith a ddefnyddiwyd yn y project a chafwyd cyfle hefyd i sgwrsio â’r contractwr a wnaeth y gwaith. Yna newidiodd y grwpiau drosodd cyn anelu’n ôl am Westy Llyn Efyrnwy lle cafwyd crynodeb o’r diwrnod gan Alun Edwards.
Read More
Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru
Published on 25/Mar/2011 Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011 Cliciwch Read MoreLIFE ar Countryfile – eto
Published on 21/Mar/2011 Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read MoreLlyn Efyrnwy i Aberdeen
Published on 21/Mar/2011 Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read MoreDiogelwch da byw
Published on 07/Mar/2011 Mae ymchwil a roddwyd ar waith gan y project wedi dangos bod cau ffosydd ar yr orgors o fudd Read MoreY gwaith o gau ffosydd Efyrnwy wedi ei gwblhau!
Published on 18/Jan/2011 O’r diwedd mae’r gwaith o gau ffosydd ar gyrion Llyn Efyrnwy wedi ei gwblhau!&nb Read More






