LIFE yn yr Eisteddfod Genedlaethol

   

 

     

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn y Bala, Gwynedd rhwng dydd Sadwrn 1 Awst a dydd Sadwrn 8 Awst.

 

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru’n ŵyl bwysig sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr fod yn rhan o ddigwyddiad mawr i ddathlu cyfoeth diwylliannol Cymru.  Eleni, oherwydd bod Y Bala wrth wraidd ardal y Project, bydd gennym stondin ar y maes.  Bydd aelodau’r tîm a’r cyrff sy’n bartneriaid ar gael i drafod y project gyda’r holl ymwelwyr a chynhelir cyfres o ddigwyddiadau, gyda’r nod o apelio i’r ifanc a’r ifanc eu hysbryd, drwy gydol yr wythnos.  Ymysg y rhain mae lliwio, gwneud bathodynnau, mwydion papur a chael blas ar yr orgors gyda’n mynydd symudol!  Cynhelir teithiau ar lan Llyn Efyrnwy hefyd i’r sawl a hoffai ei weld eu hunain.

 

Prif atyniad y project yw ein rhan ym mhroject Natur ein Bro a weithredir gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.  Eleni, ymwelodd disgyblion wyth ysgol gynradd o ardal Y Bala â’r project ar lan Llyn Efyrnwy am gyfle i weld yr orgors.  Ar y mynydd cawsant gyfle i edrych ar y mawn a’r cynefin a’r dŵr cysylltiedig.  Cafwyd hwyl fawr yn neidio yn eu tro ar y “jeli” i wneud i’r ddaear grynu i bawb arall!

 

Ar ôl dychwelyd i’r ysgol cafodd y plant gyfle i greu darn ar gyfer yr Eisteddfod gyda Twm Morys, Bardd Plant Cymru am 2009/10.  Ar y dydd Sul, bydd y plant yn cyflwyno eu gwaith yn gyhoeddus yn y Babell Lên ac mae croeso i bawb alw draw i’w cefnogi.

 

Gobeithiwn gael cyfle i siarad gyda chymaint o bobl â phosib er mwyn gadael iddynt wybod beth sydd i’w weld ar y mynyddoedd o amgylch Y Bala, felly cofiwch ddod draw i’n gweld pan fyddwch ar y Maes.

 

Read More

Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru

  Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011   Cliciwch Read More

LIFE ar Countryfile – eto

  Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read More

Llyn Efyrnwy i Aberdeen

  Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More

Diogelwch da byw

  Mae ymchwil a roddwyd ar waith gan y project wedi dangos bod cau ffosydd ar yr orgors o fudd Read More

Y gwaith o gau ffosydd Efyrnwy wedi ei gwblhau!

  O’r diwedd mae’r gwaith o gau ffosydd ar gyrion Llyn Efyrnwy wedi ei gwblhau!&nb Read More