LIFE ar y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Published on 12/Aug/2009
.jpg)

Mynychodd y Project LIFE yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala rhwng dydd Sadwrn 1 Awst a dydd Sadwrn 8 Awst 2009. Roedd gan y project ei stondin ei hun ar y Maes a galwodd tua 1,000 o bobl heibio yn ystod yr wythnos.
Drwy ein perthynas â Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) bu’r project yn ddigon ffodus i gymryd rhan yn y project Natur ein Bro. Project blynyddol yw hwn gydag ysgolion lleol dalgylch yr Eisteddfod Genedlaethol (eleni roedd yr holl ysgolion o ardal Y Bala). Ymwelodd yr ysgolion â’r Project LIFE ar lan Llyn Efyrnwy ym mis Mai a Mehefin. Yr ysgolion oedd:
Ysgol O M Edwards
Ysgol Llandrillo
Ysgol Bro Tryweryn
Ysgol y Ffridd
Ysgol y Parc
Ysgol Maes Hyfryd
Ysgol Beuno Sant
Ysgol Bro Tegid
Daeth cyfanswm o 110 o blant draw i’r project fel rhan o Natur ein Bro. Yn ystod eu hymweliad â Llyn Efyrnwy dysgodd y plant am bwysigrwydd mawnogydd i’r amgylchedd a chafwyd cipolwg ar sut mae’r project yn adfer y cynefin hwn.
Yna dychwelodd y plant i’w hysgolion i weithio gyda Bardd Plant Cenedlaethol Cymru, Twm Morys, i greu darn o farddoniaeth. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, perfformiodd y plant eu barddoniaeth arbennig yn y Babell Lên ar ddydd Sul cyntaf yr Eisteddfod.
Gwelwyd y plant ar adroddiadau S4C o’r Eisteddfod a chawsant eu crybwyll gan Gerallt Pennant ar Radio Cymru ac aelodau o staff yr RSPB a CCGC yn ystod yr wythnos.
Ar y stondin ar y Maes roedd gwybodaeth gyffredinol am y Project a ffotograffau; “mynydd” symudol yn cynnwys rhywogaethau’r orgors a fenthycwyd i’r Project gan Plantlife; sioe sleidiau o ddelweddau o’r Project; cerdd am fynyddoedd y Berwyn a ysgrifennwyd gan y bardd lleol Robin Hughes; a’r cerddi a ysgrifennwyd gan y plant fel rhan o Natur ein Bro.
Trefnodd y Project hefyd nifer o weithgareddau i blant drwy gydol yr wythnos yn cynnwys gwneud bathodynnau, lliwio, gwneud cylchoedd allweddau a chwileiriau. Roedd y gweithgareddau yma’n hynod o boblogaidd ac ynghyd â thaflenni a chylchlythyrau’r project llwyddwyd i ddenu nifer fawr o bobl i’r stondin.
Bu’r wythnos yn hynod o lwyddiannus i’r project a buom yn siarad â llawer o bobl o ardal Y Bala, ffermwyr lleol a oedd â diddordeb yn y project ac unigolion o ardaloedd ledled Cymru a gweddill Ewrop.
Read More
Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru
Published on 25/Mar/2011 Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011 Cliciwch Read MoreLIFE ar Countryfile – eto
Published on 21/Mar/2011 Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read MoreLlyn Efyrnwy i Aberdeen
Published on 21/Mar/2011 Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read MoreDiogelwch da byw
Published on 07/Mar/2011 Mae ymchwil a roddwyd ar waith gan y project wedi dangos bod cau ffosydd ar yr orgors o fudd Read MoreY gwaith o gau ffosydd Efyrnwy wedi ei gwblhau!
Published on 18/Jan/2011 O’r diwedd mae’r gwaith o gau ffosydd ar gyrion Llyn Efyrnwy wedi ei gwblhau!&nb Read More






