Y Project yn Croesawu Swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru
Published on 19/Oct/2009
Ar 30 Medi daeth swyddogion LlCC o Dir Gofal a’r Adran dros Faterion Gwledig draw ar ymweliad â’r project LIFE Gorgors Fyw Cymru. Cychwynnodd y diwrnod yng Ngwesty Llyn Efyrnwy gyda thri siaradwr.
Rhoddodd Mike Walker (Prif Warden Llyn Efyrnwy i’r RSPB) gyflwyniad ar y gwaith y mae’r RSPB wedi ei wneud ac yn parhau i’w wneud ar lan Llyn Efyrnwy, yn cynnwys y gwaith rheolaeth dros y gylfinir, rheolaeth y rhostir, a’r coedlannau. Hefyd, siaradodd Mike am y gwahanol gyrff sy’n cymryd rhan ar lan Llyn Efyrnwy a’r angen i weithio mewn partneriaeth â hwy.
Gan Mike Morris (Rheolwr y Project LIFE) cafwyd hanes y gwaith y mae’r project wedi ei wneud ar lan Llyn Efyrnwy ac ar y Migneint. Hyd yn hyn, mae’r project wedi llenwi 300 cilometr o ddraeniau ac wedi adfer 250 hectar o orgors a oedd wedi ei phlannu â choed. Mae llawer o’r ysgolion cynradd lleol wedi ymweld â’r project ac eleni roedd gennym ran bwysig yn y rhaglen Natur ein Bro, a weithredwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala.
Rhoddodd Debbie Caldwell (Cydlynydd Llwyfannau UKPopNet) grynodeb o beth yw UKPopNet, a’r amrywiol brojectau ymchwil sydd ar y gweill ar hyn o bryd ar lan Llyn Efyrnwy. Mae eu gwaith yn canolbwyntio ar nwyon tŷ gwydr a sut mae cynefinoedd o fawnog yn gollwng ac yn cadw’r nwy.
Ar ôl cinio, aeth y grŵp i’r rhostir i edrych ar rywfaint o’r gwaith o gau ffosydd sydd wedi digwydd ac i drafod y peiriannau a’r technegau a ddefnyddid wrth wneud y gwaith. Roedd y drafodaeth yn cynnwys sut mae’r project yn delio gyda thirfeddianwyr lleol a sut mae’n eu hannog i gymryd rhan yn y math yma o waith.
Daeth y diwrnod i ben gyda thrafodaeth am y dyfodol gyda’r Cynllun Amaeth-amgylcheddol hir-ddisgwyliedig Glastir ar y gorwel. Cafwyd llawer o adborth positif gan y grŵp felly roedd yn amlwg yn dda o beth bod y glaw wedi cadw draw.
Read More
Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru
Published on 25/Mar/2011 Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011 Cliciwch Read MoreLIFE ar Countryfile – eto
Published on 21/Mar/2011 Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read MoreLlyn Efyrnwy i Aberdeen
Published on 21/Mar/2011 Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read MoreDiogelwch da byw
Published on 07/Mar/2011 Mae ymchwil a roddwyd ar waith gan y project wedi dangos bod cau ffosydd ar yr orgors o fudd Read MoreY gwaith o gau ffosydd Efyrnwy wedi ei gwblhau!
Published on 18/Jan/2011 O’r diwedd mae’r gwaith o gau ffosydd ar gyrion Llyn Efyrnwy wedi ei gwblhau!&nb Read More






