Cau ffos ddraenio ar gyfer LIFE ar targed
Published on 02/Dec/2008Er mwyn asesu pa mor effeithiol yw'r gwaith adfer cynefin a wneir drwy gyfrwng project LIFE Gorgors Fyw Cymru, rhoir rhaglen fonitro lawn ar waith. Bydd hon yn cynnwys monitro hydrolegol, llystyfiant, a pharasitiaid.
Cynhelir monitro llystyfiant ym mhob un o'r pum dalgylch sy'n llifo i Lyn Efyrnwy gan ddefnyddio cyfres o 30 trawslun, pob un â 10 cwadrat 1m2 wedi ei leoli'r un pellter oddi wrth ei gilydd. Ymwelir â'r cwadratau hyn yn 2007, 2008 a 2010 a chofnodir cyfansoddiad y rhywogaethau, amlder ac uchder y rhywogaethau o blanhigion sy'n bresennol ac a gofnodir, ynghyd â nifer o newidynnau eraill. Bydd monitro hydrolegol yn cofnodi'r lefel trwythiad, graddfeydd llif, ansawdd dŵr, a gwaddod o fewn sampl o ardaloedd o amgylch Llyn Efyrnwy. Byddwn yn monitro trogod ym mis Ebrill ac Awst bob blwyddyn, mewn sampl o safleoedd yn ardal Llyn Efyrnwy. Amcan y gwaith monitro yw asesu effaith y gwaith o gau'r ffosydd ar yr hydroleg ac, yn eu tro, effeithiau'r newidiadau hyn ar gyfansoddiad y planhigion a chyflwr y cynefin. Bydd hyn yn darparu'r project LIFE ac eraill gydag asesiad mesuradwy o effeithiau'r gwaith a gyflawnir.
Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru
Published on 25/Mar/2011 Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011 Cliciwch Read MoreLIFE ar Countryfile – eto
Published on 21/Mar/2011 Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read MoreLlyn Efyrnwy i Aberdeen
Published on 21/Mar/2011 Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read MoreDiogelwch da byw
Published on 07/Mar/2011 Mae ymchwil a roddwyd ar waith gan y project wedi dangos bod cau ffosydd ar yr orgors o fudd Read MoreY gwaith o gau ffosydd Efyrnwy wedi ei gwblhau!
Published on 18/Jan/2011 O’r diwedd mae’r gwaith o gau ffosydd ar gyrion Llyn Efyrnwy wedi ei gwblhau!&nb Read More






