Efyrnwy Rhewllyd

Fel gweddill y wlad, mae safle’r project LIFE ar lannau Llyn Efyrnwy wedi bod o dan orchudd o eira ers hydoedd erbyn hyn!  Wedi’r cwymp cyntaf o eira ychydig cyn y Nadolig roedd y warchodfa’n edrych yn union fel golygfa ar gerdyn Nadolig.

 

Llwyddodd Mike a Jude i esgyn i’r rhostir gydag Ann Humble o Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddangos rhai enghreifftiau o’r gwaith llenwi ffosydd iddi.  Bu’n rhaid iddi ddefnyddio cryn dipyn o ddychymyg wrth gael hanes y gwaith ar y ffosydd a’r argaeau a orweddai o dan orchudd o eira.  

 

Parhaodd yr eira i gwympo ar ôl y Nadolig felly mae’r gwaith o gau ffosydd a chlirio rhywogaethau estron wedi gorfod dod i ben.  Yn ffodus, roedd y cynorthwywyr gwarchodfa wedi gweithio mor ddygn hyd fis Rhagfyr fel eu bod ymhell o flaen eu hamserlen.  Maent yn dal o fewn cyrraedd eu nod o ddifa’r holl goed sy’n hadu eu hunain erbyn diwedd mis Mawrth.  Er bod cryn oedi felly ar y gwaith o lenwi’r ffosydd mae’r contractwyr yn gobeithio mynd yn ôl i’r rhostir cyn gynted â phosibl.  Mae’r gwaith monitro hydrolegol hefyd wedi bod yn amhosibl gan fod pob un o’r lleoliadau samplo wedi rhewi.

 

I roi rhyw syniad i chi o ba mor oer y bu yma, roedd y tymheredd mor isel yn ystod hanner cyntaf mis Ionawr fel bod adrannau o’r llyn wedi dechrau rhewi, rhywbeth nad yw wedi digwydd i’r un graddau ers 1986.

 

Fodd bynnag, er gwaethaf yr oerni a’r diffyg gwaith a threfn oherwydd yr eira, mae’r warchodfa wedi bod yn fan eithriadol i weithio ynddi ac ymweld â hi – os oeddech yn gallu cyrraedd yma wrth gwrs!

 

 

 

 

 

Read More

Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru

  Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011   Cliciwch Read More

LIFE ar Countryfile – eto

  Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read More

Llyn Efyrnwy i Aberdeen

  Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More

Diogelwch da byw

  Mae ymchwil a roddwyd ar waith gan y project wedi dangos bod cau ffosydd ar yr orgors o fudd Read More

Y gwaith o gau ffosydd Efyrnwy wedi ei gwblhau!

  O’r diwedd mae’r gwaith o gau ffosydd ar gyrion Llyn Efyrnwy wedi ei gwblhau!&nb Read More