Project ymweliadau athrawon ysgol Ewrop
Published on 23/Feb/2010
Ar ddydd Gwener 29ain Ionawr, cafwyd ymweliad â’r project gan arbenigwyr addysg Ewropeaidd a’r bobl hynny sy’n gwneud penderfyniadau parthed y Bartneriaeth Ddysgu Gydol Oes ac Ecotec.
Daeth y naw athro o wledydd fel Gwlad Pwyl, Twrci, Awstria a Groeg, i weld sut mae disgyblion ysgol yn elwa o ymweld â phrojectau amgylcheddol fel project LIFE Gorgors Fyw.
Rhoddodd Mike Morris sgwrs am y project i’r athrawon a phymtheg o fyfyrwyr blwyddyn 10 o Ysgol Uwchradd Llanfyllin, yna aethpwyd â hwy i fyny i’r rhostir mewn rhes o gerbydau Landrover i weld yr orgors. Er gwaethaf yr oerni a’r eira, llwyddodd Mike, Jan Evans a Fiona Walker i ddangos y gwaith o gau’r ffosydd a monitro hydrolegol a llystyfiant i’r myfyrwyr. Cafwyd cyfle hefyd i chwarae gyda’r llochesi grŵp a chynnal brwydr peli eira sydyn, wedi i’r haul ddangos ei wyneb!
Ar ôl cinio, aethpwyd â’r myfyrwyr, llawer ohonynt yn ffermwyr ifanc, a’r athrawon i fferm yr RSPB lle bu Jan yn egluro sut mae rhoi fferm organig ar waith a sut mae’r fferm yn elwa o’r gwaith adfer a gyflawnir gan y project.
Er nad oedd llawer o’r athrawon o wledydd mwy deheuol Ewrop wedi arfer â thywydd mor oer, roedd pawb wedi mwynhau’r diwrnod ac wedi dysgu llawer!
Rhoddwyd rhywfaint o gyhoeddusrwydd i’r diwrnod pan siaradodd Jan Evans am yr ymweliad ar BBC Radio Cymru ar y rhaglen Galwad Cynnar ar ddydd Sadwrn 30ain Ionawr. Cliciwch yma i wrando.
Read More
Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru
Published on 25/Mar/2011 Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011 Cliciwch Read MoreLIFE ar Countryfile – eto
Published on 21/Mar/2011 Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read MoreLlyn Efyrnwy i Aberdeen
Published on 21/Mar/2011 Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read MoreDiogelwch da byw
Published on 07/Mar/2011 Mae ymchwil a roddwyd ar waith gan y project wedi dangos bod cau ffosydd ar yr orgors o fudd Read MoreY gwaith o gau ffosydd Efyrnwy wedi ei gwblhau!
Published on 18/Jan/2011 O’r diwedd mae’r gwaith o gau ffosydd ar gyrion Llyn Efyrnwy wedi ei gwblhau!&nb Read More






