Yn fwy na LIFE
Published on 05/May/2010
Wrth weithredu y tu hwnt i ffiniau ei gwarchodfeydd natur traddodiadol, mae’r Gymdeithas yn gobeithio adfer rhywogaethau sy’n diflannu ar ardaloedd enfawr o’r cefn gwlad ehangach.
“Ond mae’r cefn gwlad hwnnw’n fwyfwy anaddas i fywyd gwyllt oherwydd degawdau o golli cynefin, sydd wedi amddifadu llawer o rywogaethau rhag bwyd a lloches.
"Erbyn hyn mae newid hinsawdd yn bygwth ychwanegu hyd yn oed mwy o bwysau.”
“Mae angen i ni newid hynny’n llwyr. Drwy gydweithio gydag eraill, gallwn unwaith eto sicrhau bod ardaloedd enfawr o gefn gwlad yn llawn o fywyd gwyllt. Mae angen i ni symud y tu hwnt i’r warchodfa natur a chreu ardaloedd gwirioneddol fawr o dir, tirluniau cyfan, er mwyn creu lle i fywyd gwyllt symud a ffynnu.”
Mae un o’r ardaloedd allweddol a dargedir gan yr RSPB yn cynnwys lleoliad y Project LIFE. Tirlun o ucheldir eang sy’n ymestyn o Flaenau Ffestiniog yn y gorllewin i Wrecsam yn y dwyrain yw Tirwedd y dyfodol Rhostiroedd Gogledd Cymru.
Dyma ardal o dirlun hyfryd a amaethir sy’n glytwaith o rostir yr ucheldir, coetir, glaswelltir a gorgors. Yma, mae RSPB Cymru eisoes yn cydweithio gydag amryw o bartneriaid yn cynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru ar amrywiaeth eang o brojectau, yn cynnwys y Project LIFE. Ymysg y rhain mae gwaith rheolaeth ar gyfer rhywogaethau fel y rugiar ddu ac adfer gorgorsydd o amgylch ein gwarchodfa bwysig ar lannau Llyn Efyrnwy.
Ar Rostiroedd Gogledd Cymru, sy’n cynnwys mynyddoedd y Berwyn, ceir rhai o’r enghreifftiau gorau o orgors yng Nghymru. Mae ein gweledigaeth yn cynnwys gwella bywyd gwyllt cyfoethog yr ardal drwy weithio mewn partneriaeth, er mwyn parhau â’r gwaith ardderchog a gyflawnwyd gan y project. Bydd hyn yn helpu i warchod poblogaethau o adar fel y rugiar ddu, y boda tinwyn, y cwtiad aur, y gornchwiglen, y gwybedog brith, telor y coed a mwyalchen y mynydd.
Read More
Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru
Published on 25/Mar/2011 Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011 Cliciwch Read MoreLIFE ar Countryfile – eto
Published on 21/Mar/2011 Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read MoreLlyn Efyrnwy i Aberdeen
Published on 21/Mar/2011 Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read MoreDiogelwch da byw
Published on 07/Mar/2011 Mae ymchwil a roddwyd ar waith gan y project wedi dangos bod cau ffosydd ar yr orgors o fudd Read MoreY gwaith o gau ffosydd Efyrnwy wedi ei gwblhau!
Published on 18/Jan/2011 O’r diwedd mae’r gwaith o gau ffosydd ar gyrion Llyn Efyrnwy wedi ei gwblhau!&nb Read More






