LIFE yn Y Lapdir
Published on 28/Jun/2010
Mae project LIFE Gorgors Fyw Cymru newydd ddychwelyd o ymweliad â’r Lapdir, Y Ffindir lle trefnwyd ymweliadau â dau broject adfer cors aapa a ariennir gan LIFE. Cynrychiolwyd y project gan Mike, Fiona a Jude ac fe’u croesawyd gan Jouni Rauhala o Ganolfan Amgylchedd Rhanbarthol Y Lapdir.
.jpg)
Arwynebeddau enfawr o fawnogydd yw corsydd aapa Y Ffindir a ffynhonnell eu gwlybaniaeth yw llif dŵr daear. Yn gorchuddio arwynebedd enfawr, mae rhywfaint o lethr ar y corsydd, er nad yw hyn yn hawdd ei weld, sy’n peri i’r dŵr lifo drwy’r fawnog fel afon. Mae hyn yn creu pyllau, twmpathau a lawntiau o figwyn, yn aml mewn patrymau nad ydynt ar hap, yn ôl cyfeiriad llif y dŵr.
Ymwelwyd yn gyntaf â Pelkosenniemi, safle yng nghanol y Project LIFE i “Hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd a gwarchod corsydd aapa Y Ffindir” (LIFE06 NAT/FIN/000128). I gyrraedd cors Kiliaapa, mae’n rhaid cerdded 3 cilometr llwybr pren o 3 cilometr. Ar gwr y gors mae twr gwylio adar ac oddi yma ceir golygfa o lawer o 5km2 y safle. Cors Kiliaapa yw 10fed cors aapa fwyaf Y Ffindir. Prynwyd llawer o’r safle oddi wrth bobl leol fel rhan o’r project i warchod y gors rhag cael ei draenio.
.jpg)
Roedd yr ail ymweliad â chors aapa Tunturi o fewn Parc Cenedlaethol Pyha-Luosto. Ar y safle hwn mae’r project wedi llenwi oddeutu 10 cilometr o ffosydd coedwigaeth drwy eu hail-lenwi â’r mawn a balwyd ohonynt yn flaenorol. Cwblhawyd y gwaith hwn yn 2008 a bellach mae llystyfiant yn dechrau ail-sefydlu ar y fawnog foel.

Roedd yr ymweliad olaf â chors aapa Teuravuoma-Kivijarvenvuoma, sy’n gorchuddio arwynebedd o oddeutu 6,000 hectar (ha). Dyma gors aapa fwyaf Y Ffindir a safle project blaenorol LIFE a ddaeth i ben yn 2006 (LIFE00 NAT/FIN/007060), lle’r adferwyd 150 ha drwy gau ffosydd. Ar daith gerdded o 14 cilometr ar draws y safle, i gyd ar lwybr pren, cafwyd golwg anhygoel ar raddfa enfawr ardal y project.
Cafodd y tîm gyfle hefyd i ddilyn llwybr natur o fewn Parc Cenedlaethol Pyha-Luosto, a oedd yn eu tywys drwy fannau o goedwig bîn gymysg, cors aapa a cheunant mwyaf Y Ffindir. O’r twr adar roedd yn bosibl gweld arwynebedd enfawr y gors aapa. Roedd lawntiau o figwyn, llwyn mwyar y Berwyn (Rubus chamaemorus), ffeuen y gors (Menyanthes trifoliata), te Labrador (Ledum palustre) ac andromeda’r gors (Andromeda polifolia) yn ymestyn hyd at y gorwel. Gwelwyd llawer o adar yno hefyd megis y garan (Grus grus), y llinos bengoll (Carduelis flammea), y siglen felen (Motacilla flava), y pibydd coeswyrdd (Tringa nebularia) a’r gwybedog mannog (Muscicapa striata).
.jpg)
Roedd yn arbennig o ddifyr gweld sut mae’r ddau broject wedi creu nifer fawr o arwyddion dehongli ar hyd y llwybrau pren. Mae llawer o’r arwyddion yn cynnwys lluniau plant, rhywbeth y mae gennym ddiddordeb yn ei ddatblygu fel rhan o’r project. Er mwyn lleihau risg tanau damweiniol mae’r project, gyda chymorth ariannu ychwanegol, wedi creu mannau i bobl wneud tanau diogel.
Yn ystod yr ymweliad cafodd y tîm lawer iawn o wybodaeth a chipolwg ardderchog ar yr heriau lu sy’n wynebu gwarchodwyr mawnogydd Y Lapdir, llawer ohonynt yn debyg i’r rhai sy’n ein hwynebu ni yma yng Nghymru.
Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru
Published on 25/Mar/2011 Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011 Cliciwch Read MoreLIFE ar Countryfile – eto
Published on 21/Mar/2011 Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read MoreLlyn Efyrnwy i Aberdeen
Published on 21/Mar/2011 Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read MoreDiogelwch da byw
Published on 07/Mar/2011 Mae ymchwil a roddwyd ar waith gan y project wedi dangos bod cau ffosydd ar yr orgors o fudd Read MoreY gwaith o gau ffosydd Efyrnwy wedi ei gwblhau!
Published on 18/Jan/2011 O’r diwedd mae’r gwaith o gau ffosydd ar gyrion Llyn Efyrnwy wedi ei gwblhau!&nb Read More






