LIFE yn Sioe Frenhinol Cymru 2010

Mae’r Project LIFE newydd ddychwelyd ar ôl treulio pedwar diwrnod prysur a llwyddiannus yn Sioe Frenhinol Cymru.  Cynhaliwyd gweithgareddau addysg i blant gan y Project ar stondin RSPB Cymru yn ogystal ag arddangos ystod o ddeunyddiau a thaflenni ymgynghorol. Galwodd dros 200 o blant heibio i gymryd rhan yn y gweithgareddau, yn cynnwys gwneud mwgwd y gylfinir, gwneud bathodynnau, gêm paru dau a lliwio.

Roedd aelodau o staff wrth law hefyd i siarad ag ymwelwyr.  Roedd yr ‘ardd gors’, y craidd o fawn a’r robot JCB o ddiddordeb arbennig, ac yn rhoi gwell dealltwriaeth i ymwelwyr o beth yw gorgors a gwaith y project i’w hadfer ar safleoedd y project ar lan Llyn Efyrnwy ac ym Mhenaran.

I weld mwy o luniau, ewch i oriel ffotograffau Sioe Frenhinol Cymru 2010.

Read More

Bog-tastic

  Roedd Diwrnod Rhyngwladol yr Orgors yn llwyddiant ysgubol.  Daeth dros 500 o bobl draw Read More

Mae Efyrnwy yn Rhagorol!

  Dyna i chi dîm!  Gweithiodd tîm addysg LIFE yn arbennig o ddygn yr haf hwn. Read More

LIFE yn Sioe Frenhinol Cymru 2010

Mae’r Project LIFE newydd ddychwelyd ar ôl treulio pedwar diwrnod prysur a llwyddiannus Read More

Gŵyl Diwrnod Rhyngwladol yr Orgors

    userfiles/Poster 2010 welsh.pdf Read More

LIFE yn Y Lapdir

  Mae project LIFE Gorgors Fyw Cymru newydd ddychwelyd o ymweliad â’r Lapdir, Y Ff Read More