Bog-tastic

 

Roedd Diwrnod Rhyngwladol yr Orgors yn llwyddiant ysgubol.  Daeth dros 500 o bobl draw i’r Parc Cerfluniau ar lan Llyn Efyrnwy i ddysgu mwy am yr orgors ac i gymryd rhan yn yr holl weithgareddau.  Roedd cyswllt rhwng yr arddangosiadau a’r gweithgareddau â rheolaeth yr orgors a chafwyd arddangosiad o gneifio,
‘gardd orgors’ fechan, ac arddangosiad o’r peiriannau a ddefnyddid i gau’r ffosydd.

Bu’r plant yn cymryd rhan mewn peintio wynebau a gwneud bathodynnau ac roedd cyfle i bob oedran fwynhau’r dawnsio llinell a’r corau yn y babell arddangos,
rhoi cynnig ar saethu â bwa a saeth a gwylio’r cerflunydd wrth ei waith gyda’r llif gadwyn.

Diolch i bawb fu’n cymryd rhan a chynorthwyo i sicrhau llwyddiant y diwrnod.

I weld mwy o ffotograffau, ewch i oriel Diwrnod Rhyngwladol yr Orgors.

Read More

Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru

  Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011   Cliciwch Read More

LIFE ar Countryfile – eto

  Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read More

Llyn Efyrnwy i Aberdeen

  Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More

Diogelwch da byw

  Mae ymchwil a roddwyd ar waith gan y project wedi dangos bod cau ffosydd ar yr orgors o fudd Read More

Y gwaith o gau ffosydd Efyrnwy wedi ei gwblhau!

  O’r diwedd mae’r gwaith o gau ffosydd ar gyrion Llyn Efyrnwy wedi ei gwblhau!&nb Read More