LIFE yn cystadlu gyda’r gorau!
Published on 18/Oct/2010Mae project LIFE Gorgors Fyw Cymru wedi derbyn cydnabyddiaeth ledled y DU wrth dderbyn yr ail wobr yng nghystadleuaeth Rhaglen Mawnogydd IUCN y DU am y cyfathrebu mwyaf ysbrydoledig o fater yn ymwneud â mawnogydd.
Dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi cludo dros 1,000 o blant ysgol i’r orgors uwchben Llyn Efyrnwy ac wedi siarad gyda mwy na 650 o blant mewn ysgolion.
Roedd sylwadau’r beirniaid yn canmol llawer ar y rhaglen:
"Project wedi ei dargedu’n dda gyda chanlyniad pendant, gan ddefnyddio’r arfau ysgogi mwyaf grymus: profiad/ymwneud personol. Partneriaeth â rhwydwaith
fewnol gref yn golygu llu o ganlyniadau o waith celf i farddoniaeth.”
"Cysylltiadau rhagorol ledled gweithgaredd ysgolion a’r gymuned ehangach. Cysylltiadau â’r iaith Gymraeg a sylwadau cefnogol gan athrawon yn amlygu gwerth y profiad a synnwyr ehangach o le. Negeseuon cryf am gadwraeth mawnogydd.”
"Project gyda gwir sylwedd a chanlyniadau ecolegol – y cyfathrebu’n rhan hanfodol, yn hytrach na rhywbeth i’w feddal amdano’n ddiweddarach.”
Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd yn ymwneud â’r project!
Os ydych chi’n athro neu’n ddisgybl ac os hoffech i’ch ysgol gymryd rhan, cysylltwch os gwelwch yn dda â swyddfa’r project ar 01691 870939.
Read MoreCynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru
Published on 25/Mar/2011 Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011 Cliciwch Read MoreLIFE ar Countryfile – eto
Published on 21/Mar/2011 Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read MoreLlyn Efyrnwy i Aberdeen
Published on 21/Mar/2011 Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read MoreDiogelwch da byw
Published on 07/Mar/2011 Mae ymchwil a roddwyd ar waith gan y project wedi dangos bod cau ffosydd ar yr orgors o fudd Read MoreY gwaith o gau ffosydd Efyrnwy wedi ei gwblhau!
Published on 18/Jan/2011 O’r diwedd mae’r gwaith o gau ffosydd ar gyrion Llyn Efyrnwy wedi ei gwblhau!&nb Read More






