Bygythiadau i’r orgors

Dim ond data cyfyngedig ar raddfa colli gorgorsydd yn y DU sydd ar gael.  Fodd bynnag, amcangyfrifir bod 21% o orgorsydd yr Alban wedi eu colli rhwng 1950 ac 1980, ac mai coedwigaeth oedd yn gyfrifol am 51% o'r golled hon.  Ar ACA'r Berwyn a gynhwysir o fewn y project LIFE, prinhaodd ardaloedd o rostir lle'r oedd grug yn arglwyddiaethu o 43% rhwng 1946 ac 1984, a choedwigaeth oedd yn gyfrifol am 14% o'r golled hon, a ffactorau eraill yn gyfrifol am y 30% arall.

Ar hyn o bryd mae gorgorsydd yn y DU o dan fygythiad oddi wrth:

Coedwigaeth - er nad yw coedwigo gorgorsydd yn y DU yn digwydd yn gyffredinol bellach yn dilyn cydnabyddiaeth o bwysigrwydd byd-eang y cynefin, mae effeithiau hanesyddol plannu coed yn dal yn fygythiad.  Gall newidiadau mewn hydroleg, cyfansoddiad rhywogaethau o blanhigion a lefelau maetholion i gyd effeithio'n sylweddol ar orgorsydd. 

Gorbori - Gall nifer fawr o anifeiliaid pori (defaid fel rheol yn ardaloedd y project) olygu colli rhywogaethau allweddol o blanhigion.  Gall porthi ychwanegol da byw neu daeniad gwrteithiau er mwyn gwella'r pori hefyd olygu lefelau artiffisial o uchel o faetholion mewn rhai ardaloedd.

Draenio - Mae draeniau wedi eu defnyddio i wella ansawdd pori ledled arwynebeddau mawr o orgors.  O ganlyniad mae'r lefel trwythiad yn is, hyd yn oed lle nad yw draeniau yn cael eu cynnal, a chafwyd colledion yn llystyfiant yr orgors.  Er mai ffosydd wedi eu hen sefydlu yw'r rhan fwyaf sy'n bodoli, mae nifer fechan o ffosydd newydd yn parhau i gael eu creu, a hen ffosydd yn cael eu hagor.

Llosgi - Efallai bod arwynebeddau o orgors wedi eu llosgi mewn ymgais i wella pori, neu i annog adferiad y grug a chynyddu poblogaeth y rugiar goch Lagopus lagopus scoticus.  Gall hyn olygu colli rhywogaethau allweddol o blanhigion, dirywiad yn strwythur y mawn, neu fwy o erydiad.

Lledaeniad Rhododendron a sbriws Sitca - Mae lledaeniad Rhododendron a sbriws Sitca (dwy rywogaeth o blanhigion estron) o erddi a phlanhigfeydd coedwigaeth i ardaloedd o orgors yn peri newid yng nghyfansoddiad y rhywogaethau, strwythur y cynefin, a hydroleg yr ardal.

Newid Hinsawdd - Gall yr hafau sychach a ragwelir o ganlyniad i gynhesu byd-eang gael effaith fawr ar orgorsydd drwy ostwng eu lefel trwythiad, sychu mawn, a cholli rhywogaethau o blanhigion sy'n ffurfio mawn.

Llygredd - mae rhai ardaloedd, yn cynnwys ACA'r Berwyn, o dan fygythiad gwaddodiad sylffad a nitradau.  Gall y llygrwyr hyn olygu newidiadau yng nghyfansoddiad y rhywogaethau o blanhigion, difodiant rhai rhywogaethau allweddol o blanhigion, neu mae'n lleihau eu gallu i ymdopi â phwysau arall megis sychder dros yr haf, gorbori, ayyb.

Torri Mawn - Er nad yw torri mawn ar gyfer y cartref a thorri mawn ar raddfa fasnachol ers yr 1930au yn fater arwyddocaol yn ardal y project LIFE, gall y ddau olygu effeithiau niweidiol sylweddol ar orgorsydd, er enghraifft GNG Fenn, Whixall a Bettisfield Mosses.

Hamdden - Gall llwybrau cerdded poblogaidd olygu colli cynefin yn lleol drwy sathru neu erydiad yn y pen draw.  Er nad yw o reidrwydd yn golygu colli cynefin uniongyrchol, gall lefelau gweddol isel o ymyrraeth olygu bod rhai rhywogaethau allweddol yn cael eu colli.  Gall y defnydd o gerbydau croesi tir neu feiciau mynydd hefyd olygu difrod uniongyrchol i orgorsydd.

Datblygiad - Gall ystod eang o ddatblygiadau a'u hisadeiledd cysylltiedig olygu colli gorgorsydd yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.  Ymysg y datblygiadau hyn mae: mastiau cyfathrebu, ffermydd gwynt, cynlluniau trydan dŵr a ffyrdd.

Erydiad - Gall erydiad ddigwydd o ganlyniad i lawer o'r gweithgareddau a restrir uchod, a gall beri colli gorgorsydd yn uniongyrchol.  Yn ardal y project LIFE, nid yw erydiad yn ymddangos yn broblem mor fawr ac mewn safleoedd megis Parc Cenedlaethol Ardal y Peaks, Lloegr, ardal y project Moors for the Future.

Mae Efyrnwy yn Rhagorol!

  Dyna i chi dîm!  Gweithiodd tîm addysg LIFE yn arbennig o ddygn yr haf hwn. Read More

LIFE yn Sioe Frenhinol Cymru 2010

Mae’r Project LIFE newydd ddychwelyd ar ôl treulio pedwar diwrnod prysur a llwyddiannus Read More

Gŵyl Diwrnod Rhyngwladol yr Orgors

    userfiles/Poster 2010 welsh.pdf Read More