Pam Ddylem Ni Bryderu am yr Orgors?

Mae llawer o resymau pam y dylem warchod gorgorsydd:

- Yn fyd-eang, mae'r orgors yn gynefin hynod o brin a lleol, gyda 10-15% ohono ym Mhrydain.

- Mae'r orgors yn cynnal casgliad unigryw o rywogaethau o blanhigion, infertebratau, ac adar.

- Mae gorgorsydd wedi eu defnyddio gan ddyn dros filoedd o flynyddoedd, ac maent felly yn gyswllt pwysig â'n gorffennol.

- Mae gorgorsydd yn storfeydd carbon pwysig, a thros y blynyddoedd maent wedi cronni llawer iawn o garbon.

- Mae gorgorsydd sydd wedi eu niweidio yn gollwng llawer iawn o garbon deuocsid, methan ac ocsidau nitraidd, nwyon tŷ gwydr yr honnir iddynt fod yn rhannol gyfrifol am gynhesu byd-eang.

- Mae gorgorsydd yn storio llawer iawn o ddŵr ac yn ei ryddhau'n araf i gyrsiau dŵr gerllaw. Gall colli neu niweidio gorgorsydd olygu cyflenwadau llai dibynadwy o ddŵr, mwy o sychder, neu fwy o debygolrwydd o lifogydd.

- Gall colli neu niweidio gorgorsydd olygu mwy o ddŵr ffo a llwythau gwaddod mwy, dirywiad yn ansawdd y dŵr, a gwaddodi cynyddol mewn llynnoedd neu gronfeydd, neu newid mewn systemau dyfriol i lawr yr afon.

Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru

  Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011   Cliciwch Read More

LIFE ar Countryfile – eto

  Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read More

Llyn Efyrnwy i Aberdeen

  Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More