Sut ffurfiwyd gorgorsydd?

Mewn rhannau o Ewrop o leiaf, mae'n debygol bod gorgorsydd wedi ffurfio o ganlyniad i gyfuniad o hinsawdd wlypach a olygodd bod mwy o bridd dan ddŵr a thrwytholchi pridd a oedd yn annog mwsoglau'r gors i ddatblygu, yn ogystal â thorri coed gan ddyn.  Byddai torri coed wedi golygu cynnydd pellach yn arwynebedd y pridd dan ddŵr, gan wneud y lle'n llai addas ar gyfer coed, ac annog mwsoglau'r gors ymhellach.  Gyda mwsoglau'r gors yn arglwyddiaethu a llawer o ddŵr yn y pridd o ganlyniad byddai'r pH wedi gostwng, pydredd y deunydd organig wedi arafu, a mawn wedi ei annog i ffurfio.  Dechreuodd y rhan fwyaf o orgorsydd ffurfio rhwng 5000 a 6000 o flynyddoedd yn ôl, er y gallai rhai bod wedi cychwyn cymaint â 9000 o flynyddoedd yn ôl, neu mor ddiweddar â 1500 o flynyddoedd yn ôl.

Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru

  Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011   Cliciwch Read More

LIFE ar Countryfile – eto

  Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read More

Llyn Efyrnwy i Aberdeen

  Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More