Ym mhle mae gorgorsydd i’w gweld?
Mae gorgorsydd yn ffurfio lle ceir hinsoddau claear a gwlyb, hynny yw, ardaloedd gyda chwymp glaw uchel, nifer fawr o ddyddiau gyda glaw, a lefelau isel o anwedd-drydarthiad. Mae hyn yn caniatáu i fawn ddatblygu ar draws y tirlun, yn hytrach na chael ei gyfyngu i bantiau neu ddalgylchoedd unigol. Daw'r term Saesneg ‘blanket bog' o'r enghraifft hon o orgors a all orchuddio'r tirlun cyfan. Cyfeirir at orgors sy'n parhau i gynnal arwynebeddau sylweddol o rywogaethau o blanhigion sydd yn ffurfio mawn fel arfer fel gorgors weithredol, cynefin â blaenoriaeth o dan Gyfarwyddyd Cynefinoedd y GE. Mae arwynebeddau mawr o orgors yn parhau i fodoli er nad ydynt ar hyn o bryd yn ffurfio mawn, rhywbeth a all fod yn arwyddocaol o safbwynt eu rheoli er budd cadwraeth neu eu hadfer.
Oherwydd yr amodau hinsoddol angenrheidiol ar gyfer ffurfiant gorgorsydd, cyfyngedig yw eu dosbarthiad byd-eang, ac fe'u gwelir ar arfordir dwyreiniol Canada, De Alasga, Gogledd Orllewin Pasiffig UDA, Tierra del Fuego, a rhannau bychain o Ewrop, Gogledd Ddwyrain Asia, Tasmania, a Seland Newydd yn unig. Yn Ewrop, ceir hyd i orgorsydd yn bennaf yn y DU a'r Iwerddon, a thra nad oes cytundeb ynglŷn â'r amcangyfrif o gyfanswm arwynebedd llystyfiant gorgors ym Mhrydain, amcangyfrifwyd bod 10-15% o orgorsydd y byd yn bodoli ym Mhrydain.
Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 70,000 ha o orgors yn bodoli, er mae'n debyg nad yw dros 10% ohoni bellach yn cynnal llystyfiant yr orgors, ac nad yw cyfran sylweddol o weddill yr arwynebedd yn debygol o fod yn cynnal gorgors fyw. ACA'r Berwyn a Mynyddoedd De Clwyd (oddeutu 27,200 ha) sy'n cynnal yr arwynebedd mwyaf eang o orgors sydd bron yn naturiol yng Nghymru, tra bod ACA'r Migneint-Arenig-Dduallt (20,000 ha) yn cynnal yr arwynebedd mwyaf o orgors yng Ngogledd Cymru wedi'r Berwyn. Yn y ddwy ardal, grug a phlu'r gweunydd unben (Eriophorum vaginatum) sy'n arglwyddiaethu ar lystyfiant yr orgors ac mae grug croesddail (Erica tetralix) a mwsoglau Sphagnum y gors hefyd yn ffynnu yno.
Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru
Published on 25/Mar/2011 Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011 Cliciwch Read MoreLIFE ar Countryfile – eto
Published on 21/Mar/2011 Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read MoreLlyn Efyrnwy i Aberdeen
Published on 21/Mar/2011 Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More






