Monitro Llystyfiant ar lan Llyn Efyrnwy
MONITRO YMATEB Y LLYSTYFIANT I GAU FFOSYDD A GWEITHGAREDDAU ADFER CYSYLLTIEDIG O FEWN YR ORGORS YN ACA'R BERWYN A MYNYDDOEDD GOGLEDD CLWYD, GDd CYMRU.
Mae partneriaid y project wedi ymrwymo i asesu ymateb y llystyfiant i'r rhaglen o gau ffosydd i safon uchel a fyddai'n dderbyniol ar gyfer ei gyhoeddi mewn cyhoeddiadau a adolygir gan gyfoeswyr. Ystyrir monitro cyn unrhyw waith adfer yn eithriadol o hanfodol yn wyneb y sylw yn yr adolygiad diweddar gan Holden et al (2006, tud 105) sef "it is rare to find any data which have been collected for a sufficient length of time before blocking to justify good scientific interpretation of the full effects of blocking". Byddem yn disgwyl y byddai llystyfiant gerllaw unrhyw ffosydd wedi eu cau yn dod yn fwy nodweddiadol o orgors mewn cyflwr ffafriol, ac y byddai hynny'n digwydd ymhellach oddi wrth y ffosydd yn y blynyddoedd canlynol.
Cynllun arbrofol
Bydd data monitro, sy'n cael ei ailadrodd ar raddfa leol (1 ha) ac ehangach (25 ha), yn y rhan fwyaf o achosion, yn cael eu casglu cyn, yn ystod ac ar ôl cau ffosydd. Felly, gellir ystyried y cynllun fel arbrawf ar yr effeithiau cyn-wedi rheolaeth (BACI), er bydd y triniaethau lefel is-ddalgylch yn cael eu rhoi ar waith mewn gwahanol flynyddoedd. Mae projectau LIFE yn caniatáu monitro ar ôl y cyfnod ariannu, a bydd data ym mlwyddyn 7 (2012) yn cael ei gynnwys o fewn y cytundeb hwn fel cymhariaeth cyn/wedi is-ddalgylch, ac y bydd yn darparu ymatebion tymor hirach ar gyfer is-ddalgylchoedd a reolir yn gynnar yn ystod y project.
O fewn pob un o'r is-ddalgylchoedd, sefydlir triniaeth a rheolaeth ddeuol ar gyfer project UK-Pop-Net. Bydd pob un o'r ardaloedd deuol yma yn ddalgylchoedd o'r radd 1af o faint cymharol (oddeutu 25 ha) ac yn cynnwys nifer amrywiol o ffosydd (cymedr 6, ystod 3-9) gyda hyd ar gyfartaledd o 531m. Byddai'r ffosydd yn yr ardaloedd i'w trin yn cael eu cau yn ystod gaeaf 2007/08. Bydd ffosydd yn yr ardaloedd rheolaeth yn cael eu cau yng ngaeaf olaf y project, neu o bosibl yn cael eu cynnal y tu hwnt i oes y project.
Protocol monitro llystyfiant
Bydd monitro llystyfiant yn digwydd rhwng 1af Mehefin a 31ain Gorffennaf ym mlwyddyn dau, tri a phump y project LIFE (2007, 2008 a 2010). Bydd cyfansoddiad y rhywogaethau o lystyfiant, gorchudd a strwythur yn cael eu mesur mewn cwadratau 1m2 sy'n cael eu hailadrodd ar hyd trawsluniau. O fewn pob is-ddalgylch, gosodir 20 trawslun wrth ochr ffosydd a ddewisir ar hap. Bydd y trawslin yn berpendicwlar i bob ffos, ac yn ymestyn 22 metr ar bob ochr. Hefyd, gosodir 10 trawslin ar hap mewn mannau o fewn pob is-ddalgylch lle nad oes ffosydd. Bydd cyfanswm o 30 o drawsliniau llystyfiant ym mhob is-ddalgylch, a phenderfynir ar union leoliad y rhain gan y project LIFE. Nodir pob trawslin yn barhaol ar ochr y ffos ac ar bob pen a chofnodir y lleoliadau gyda manylder priodol (er enghraifft, o bosibl gan ddefnyddio GPS gwahaniaethol).
Arolygir cwadratau un metr sgwâr ar bellteroedd o 1-2, 3-4, 8-9, 15-16 ac 21-22 metr o bob ochr o lan y ffos (neu leoliad wedi ei ddethol ar hap mewn ardaloedd lle nad oes ffosydd), felly bydd 10 cwadrat ym mhob trawslin. Dylai arolygwyr (o leiaf i ddechrau) ddefnyddio cwadratau llinyn i gofnodi gwerthoedd gorchudd a gwirio yn erbyn ei gilydd i sicrhau cysondeb (er enghraifft drwy ddefnyddio ffotograffiaeth o fannau penodedig).
Ar gyfer pob cwadrat cofnodir:
1. a oes grug wedi ei hau,
2. a oes gwaddod o'r argae yn bresennol
3. y gorchudd ar a) ddaear foel, b) dŵr wyneb, c) pob rhywogaeth o blanhigyn yn cynnwys mwsoglau a chennau gan ddefnyddio'r raddfa DOMIN.
4. dyfnder y mawn i'r 5cm agosaf gan ddefnyddio cansen wedi ei nodi.
5. uchder, wynebwedd a llethr (bydd staff LIFE yn penderfynu ar yr amrywiaethau yma drwy ddefnyddio GIS)
6. presenoldeb anifeiliaid pori/nifer o glystyrau o faw defaid
7. presenoldeb/gorchudd o rug marw
8. lleoliad y GPS
Yng nghanol pob un o bedwar chwarter y cwadrat, dylid defnyddio cansen bambŵ 1.5m wedi ei marcio pob 5cm a gyda thâp gwyn 1cm o drwch ar 0, 10, 20, 30 a 40cm o un pen i gofnodi:
1. Yr uchder eithaf lle cynhelir llinynnau'r cwadrat gan lystyfiant pan osodir y cwadrat dros y llystyfiant.
2. Yr uchder eithaf i'r 5cm agosaf o ddosbarth o lystyfiant o fewn 5cm o'r gansen, gan ei dalgrynnu ar i lawr ar gyfer mesurau rhyngol (hy cofnodir 0 - 4cm fel 0, 5 - 9cm fel 5 ayyb). Dylid cofnodi ar wahân uchder eithaf corlwyni, dail gwelltysol, fflurgeinciau gwelltysol, Juncus spp (hy y tri chyffredin a thalach sef J. effusus, J. acutifloris, J. conglomeratus) a rhedyn.
3. Strwythur: Cofnodwch a yw'r marciau gwyn ar uchder o 0, 10, 20, 30 a 40cm yn cael eu cuddio gan lystyfiant, wrth ddal y gansen yn fertigol, ar hyd braich at ymlaen (hynny yw'r un 4 safle ag y mesurir yr uchder).
Bydd angen i ddau arolygydd wneud y gwaith gyda'i gilydd bob amser oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch.
O ran trefn ymwelir â'r 5 is-ddalgylch ar hap bob blwyddyn.
Efallai y bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd wrth amseru ymweliadau â rhai lleoliadau oherwydd bod adar yn nythu.
Dewisir union leoliadau trawsliniau gan y project LIFE a'u darparu i gontractwyr cyn cychwyn ar y gwaith monitro.
Rhaid cytuno ar ddalennau cofnodi data a fformat y ffeiliau data electronaidd gyda Rheolwr y Project LIFE cyn cychwyn ar y gwaith maes.
Sefydlir cytundeb ar wahân ar gyfer dadansoddi data ym Mlwyddyn 5 y project LIFE. Dadansoddir y data monitro llystyfiant ochr yn ochr â data hydrolegol a pharasitiaid er mwyn profi rhagweliadau'r project LIFE. Un dull ystadegol posibl yw drwy gynnwys y dalgylch a'r trawslin fel testunau mewn model llinellol cyffredinol lle ailadroddir mesurau, gyda'r flwyddyn a'r flwyddyn ar ôl y driniaeth fel effeithiau gosodedig (dylai colofn y flwyddyn ers y driniaeth fod yn wag nes bydd y ffosydd wedi eu cau).
Mae Efyrnwy yn Rhagorol!
Published on 30/Jul/2010 Dyna i chi dîm! Gweithiodd tîm addysg LIFE yn arbennig o ddygn yr haf hwn. Read MoreLIFE yn Sioe Frenhinol Cymru 2010
Published on 26/Jul/2010 Mae’r Project LIFE newydd ddychwelyd ar ôl treulio pedwar diwrnod prysur a llwyddiannus Read MoreGŵyl Diwrnod Rhyngwladol yr Orgors
Published on 28/Jun/2010 userfiles/Poster 2010 welsh.pdf Read More






