Monitro Llystyfiant ym Mhenaran

MONITRO YMATEB Y LLYSTYFIANT I DORRI CONIFFERAU, PORI GYDA MERLOD A GWEITHGAREDDAU ADFER CYNEFIN ERAILL AR YR ORGORS YN ACA'R MIGNEINT-ARENIG-DDUALLT, GDd CYMRU.

Problem/Angen

Cymharol ychydig o ddata o ansawdd uchel sydd ar gael ar effeithiau torri conifferau a'r dwyster stocio mwyaf priodol er mwyn sicrhau'r rheolaeth fwyaf effeithiol o orgors ar lystyfiant yr orgors.  Dengys Map 1 y rhannau lle torrwyd conifferau a lle cafwyd gwaith adfer ym Mhenaran.  Mae partneriaid y project wedi ymrwymo i asesu ymateb y llystyfiant i'r gwaith cadwraeth ym Mhenaran i safon uchel sy'n dderbyniol ar gyfer ei gyhoeddi mewn llenyddiaeth a adolygir gan gyfoeswyr.

Dull a gweithdrefn rheolaeth cadwraeth

Bydd conifferau (sbriws Sitca) yn cael eu cwympo a gosodir y canghennau yn nraeniau'r goedwig ar y safle.  Bydd arwynebedd o 18 ha o Sitca'n cael eu cwympo, a bydd 204 ha o orgors sy'n cynnwys Sitca gwasgarog wedi ail-hadu yn cael ei glirio o bob rhywogaeth o goed anfrodorol.  Ochr yn ochr â'r gwaith o dorri coed, bydd nifer o ddraeniau'r goedwig hefyd yn cael eu cau drwy ddefnyddio byrnau grug neu argaeau mawn.  Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd cyfres (oddeutu 25) o byllau bach hefyd yn cael eu creu ar yr orgors.  Wedi cwblhau'r gwaith hwn, cyflwynir merlod Cymreig i'r safle.  Mae'n bosibl y bydd rhannau bach o rug trwchus yn cael eu hau er mwyn hwyluso symudiadau da byw o amgylch y safle.

Torrir y coed yn yr hydref 2007, a bydd cau'r ffosydd a chreu'r pyllau'n ffurfio rhan o'r un cytundeb.  Bydd y ffensio yn digwydd yn yr hydref 2007, a chyflwynir da byw wedi cwblhau hyn.

Cynllun arbrofol

Bydd data monitro, yn y rhan fwyaf o achosion, yn cael ei gasglu cyn ac ar ôl y gwaith adfer.  Mae projectau LIFE yn caniatáu monitro ar ôl y cyfnod ariannu, a chynhwysir data ym mlwyddyn 7 (2012) yn y cytundeb hwn fel cymhariaeth cyn/wedi ychwanegol, gan ddarparu ymatebion tymor hir i'r gwaith a gyflawnir.

Protocol monitro llystyfiant

Bydd monitro llystyfiant yn digwydd rhwng 1af Mehefin a 30ain Medi ym mlwyddyn dau a phump o'r project LIFE (2007 a 2010).  Bydd cyfansoddiad y rhywogaethau o lystyfiant, gorchudd a strwythur yn cael eu mesur mewn cwadratau 1m2 a ailadroddir o fewn clystyrau o 100 o gwadratau.  Bydd pob clwstwr o gwadratau'n cynnwys pedwar cwadrat 1m sgwâr - a leolir 5 m oddi wrth ei gilydd i'r gogledd, de, dwyrain a gorllewin, a lleoliad y clwstwr fydd cornel ddeheuol y cwadrat deheuol.  Bydd hyn yn gyfanswm o 400 cwadrat.  Dosberthir clystyrau gan ddefnyddio system haenedig ar hap ledled y mannau a amlygir ar Fap 1, ac arolygir y rhannau sy'n cael eu trin a'r rhannau na fydd yn cael eu trin.  Bydd pob clwstwr yn cael ei farcio'n barhaol 5m i'r de o'r gornel ddeheuol o'r cwadrat deheuol a chofnodir lleoliadau gyda manylder priodol (ee gan ddefnyddio GPS gwahaniaethol o bosib).

Dylai arolygwyr (o leiaf i ddechrau) ddefnyddio cwadratau llinyn i gofnodi gwerthoedd gorchudd a gwirio yn erbyn ei gilydd i sicrhau cysondeb (er enghraifft drwy ddefnyddio ffotograffiaeth man sefydlog).

Ar gyfer pob cwadrat cofnodir:

1. a oes grug wedi ei hau,

2. a oes gwaddod o'r argae yn bresennol

3. y gorchudd ar a) ddaear moel, b) dŵr wyneb, c) pob rhywogaeth o blanhigyn yn cynnwys mwsoglau a chennau.

4. dyfnder y mawn i'r 5cm agosaf gan ddefnyddio cansen wedi ei marcio.

5. uchder, wynebwedd a llethr

6. presenoldeb difrod pori

7. nifer o glystyrau o faw ceffyl

8. nifer o glystyrau o faw defaid

9. presenoldeb/gorchudd o rug marw

10. y pellter i'r sbriws agosaf

11. lleoliad GPS

Yng nghanol pob pedwar chwarter y cwadrat, defnyddiwch gansen bambŵ 1.5m o hyd wedi ei marcio pob 5cm a gyda thâp gwyn 1cm o drwch ar 0, 10, 20, 30 a 40cm o un pen i gofnodi:

1.      Yr uchder eithaf lle cynhelir llinynnau'r cwadrat gan lystyfiant pan osodir y cwadrat dros y llystyfiant.

2.      Yr uchder eithaf i'r 5cm agosaf o ddosbarth o lystyfiant o fewn 5cm o'r gansen, gan ei dalgrynnu ar i lawr ar gyfer mesurau rhyngol (hy cofnodir 0 - 4cm fel 0, 5 - 9cm fel 5 ayyb).  Dylid cofnodi ar wahân uchder eithaf corlwyni, dail gwelltysol, fflurgeinciau gwelltysol, Juncus spp (hy y tri chyffredin a thalach sef J. effusus, J. acutifloris, J. conglomeratus) a rhedyn. 

3.      Strwythur: Cofnodwch a yw marciau gwyn ar uchder o 0, 10, 20, 30 a 40cm yn cael eu cuddio gan lystyfiant, wrth ddal y gansen yn fertigol, ar hyd braich at ymlaen (hynny yw'r un 4 safle ag y mesurir yr uchder).

Bydd ffotograffau digidol yn cael eu tynnu ar sampl o'r cwadratau hyn (5%), a defnyddir y rhain i asesu amrywiaeth rhyng-wyliadwyr mewn asesiad o % o orchudd.  Mae'r broblem hon yn un sy'n cael ei chydnabod yn eang, a dull safonol o fynd i'r afael â hi yw drwy ddefnyddio ffotograffau.  Byddai hefyd yn cyflenwi'r angen i dicio'r blwch Cais am ffotograffiaeth man-sefydlog.

Bydd angen i ddau arolygydd wneud y gwaith gyda'i gilydd bob amser oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch.

Efallai y bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd wrth amseru ymweliadau â rhai lleoliadau oherwydd bod adar yn nythu.

Rhaid cytuno ar daflenni cofnodi data a fformat y ffeiliau data electronaidd gyda Rheolwr y Project LIFE cyn cychwyn ar y gwaith maes.

Sefydlir cytundeb ar wahân ar gyfer dadansoddi data ym Mlwyddyn 5 y project LIFE. 

Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru

  Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011   Cliciwch Read More

LIFE ar Countryfile – eto

  Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read More

Llyn Efyrnwy i Aberdeen

  Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More