
Croeso
LIFE - Adfer Gorgors Fyw yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) y Berwyn a'r Migneint yng Nghymru 2006-2011
Mae'r project cyffrous hwn yn bartneriaeth rhwng Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth Amgylchedd Cymru, a Comisiwn Coedwigaeth Cymru. Ei nod yw adfer gorgors fyw yn ACA'r Berwyn a'r Migneint yng Nghymru. Lansiwyd y project 56 mis ar 1af Awst 2006, a sicrhawyd y mwyafswm o'r arian ar gyfer y project (75%) gan raglen LIFE-Nature yr UE.
Amcan Project LIFE Gorgors Fyw Cymru yw sicrhau gwelliant pwysig, sylweddol a pharhaol yng nghyflwr gorgorsydd mewn dwy Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) yng Nghymru, a fydd yn eu tro yn hybu gwaith tebyg yn lleol ac yn fwy eang. Mae'r ddau safle perthnasol, ACA'r Berwyn a'r Migneint, yn ddwy o'r ACA pwysicaf o safbwynt yr orgors yn y Deyrnas Unedig. Bydd arwynebedd mawr o orgors o fewn yr ACA yma'n elwa'n uniongyrchol o weithrediadau'r project, sy'n cynnwys cau draeniau ar raddfa fawr a difa rhywogaethau estron. Yn ychwanegol at hyn, disgwylir i reolaeth yr orgors o fewn y ddwy ACA fel cyfanrwydd wella o ganlyniad i weithrediadau'r project. Rhagwelir y bydd y project yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at gadwraeth gorgorsydd Cymru, yn ogystal â ledled y Deyrnas Unedig.
Er bod ardaloedd mawr o orgors yn dal i fodoli yng Nghymru, mae'r mwyafrif wedi eu diraddio'n ddifrifol o ganlyniad i goedwigaeth, lledaeniad rhywogaethau estron (megis Rhododendron Rhododendron ponticum a'r sbriwsen Sitca Picea sitchensis), gorbori, draenio, a llosgi bwriadol neu ddamweiniol.
Yn ystod 5 mlynedd project LIFE Gorgors Fyw Cymru, y bwriad yw sicrhau gwelliant sylweddol a pharhaol yng nghyflwr gorgorsydd yn ardaloedd allweddol dwy ACA yng Ngogledd Cymru. Y ddwy ACA yw'r Migneint-Arenig-Dduallt, a Berwyn and South Clwyd Mountains. Bydd y project hefyd yn hybu ymwybyddiaeth ac ymarfer gorau yng nghymunedau'r ardal a thu hwnt.
Bydd y project yn cynnwys:
- Cau oddeutu 90 km o ddraeniau ar ACA'r Berwyn
- Torri coed ar 300 ha o ACA'r Migneint
- Clirio Rhododendron a sbriws Sitca o 900 ha o ACA'r Berwyn
- Ail-hadu 50 ha o ACA'r Berwyn gyda grug (Calluna vulgaris)
- Creu mannau rheoli tân yn y ddwy ACA
- Prynu darn o dir ar y Migneint gyda chynefin gorgors da er mwyn gwarchod ei fywyd gwyllt ac er mwyn egluro wrth bobl leol pa mor werthfawr yw'r orgors
- Gwaith arddangos ac eiriolaeth eang gyda ffermwyr a rheolwyr tir lleol
- Gwaith allanol eang gyda chymunedau ac ysgolion lleol
- Rhannu gwybodaeth
Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith a wneir ar ACA'r Berwyn yn digwydd ar Gwarchodfa Llyn Efyrnwy yr RSPB sydd ym mherchnogaeth Dŵr Hafren Trent.
Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru
Published on 25/Mar/2011 Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011 Cliciwch Read MoreLIFE ar Countryfile – eto
Published on 21/Mar/2011 Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read MoreLlyn Efyrnwy i Aberdeen
Published on 21/Mar/2011 Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read MoreDiogelwch da byw
Published on 07/Mar/2011 Mae ymchwil a roddwyd ar waith gan y project wedi dangos bod cau ffosydd ar yr orgors o fudd Read MoreY gwaith o gau ffosydd Efyrnwy wedi ei gwblhau!
Published on 18/Jan/2011 O’r diwedd mae’r gwaith o gau ffosydd ar gyrion Llyn Efyrnwy wedi ei gwblhau!&nb Read More


















