LIFE
Mae Rhaglen Life-Nature yr UE yn darparu arian i wledydd sy'n aelodau o'r UE i hybu datblygiad cynaliadwy ac i ddatblygu rheolaeth bositif o gynefinoedd ac adar allweddol.
Yn ymarferol, rhaid i LIFE-Nature gyfrannu at weithredu'r Cyfarwyddiadau Cymunedol "Adar" a "Chynefinoedd", at sefydlu'r rhwydwaith Ewropeaidd o safleoedd gwarchodedig (NATURA 2000) gyda'r nod o sicrhau rheolaeth a chadwraeth ar y safle o'r cynefinoedd a'r rhywogaethau mwyaf bregus o blanhigion ac anifeiliaid yn yr UE.
Mae'r ardaloedd a dargedir gan broject LIFE Gorgors Fyw Cymru o fewn dwy o'r ardaloedd pwysicaf i'r orgors yn y DU, y ddwy wedi eu dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) yn unol â Chyfarwyddyd Cynefinoedd y GE 1992.
Ar hyn o bryd project LIFE Gorgors Fyw Cymru yw'r unig broject LIFE sy'n weithredol yng Nghymru.
Yn 2007 daeth LIFE+ i rym yn lle'r rhaglen LIFE flaenorol. Cyfrwng ariannu penodol gan yr UE yw Rhaglen EU LIFE+ 2007-2013 dros yr amgylchedd sy'n cyd-fynd â'r trefniadau ariannu presennol (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd), Cronfa Gymdeithasol Ewrop, Cronfa Cydlyniad, Cronfa Amaethyddol Ewropeaidd dros Ddatblygu Gwledig, Rhaglen Gystadleugarwch a Newydd bethau, Cronfa Pysgodfeydd Ewropeaidd a 7fed Rhaglen Fframwaith Ymchwil yr UE). Mae'n cymryd lle Rhaglen LIFE yr UE.
Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru
Published on 25/Mar/2011 Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011 Cliciwch Read MoreLIFE ar Countryfile – eto
Published on 21/Mar/2011 Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read MoreLlyn Efyrnwy i Aberdeen
Published on 21/Mar/2011 Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More






