Cynnydd hyd yma

Rhoddwyd y Project LIFE ar waith ym mis Awst 2006 a hyd yn hyn cyflawnwyd y canlynol:

Gwaith ymarferol

Hyd at ddiwedd Rhagfyr 2010, mae'r project wedi

1. cau dros 96.8 km m o ffosydd draenio ar warchodfa Llyn Efyrnwy'r RSPB.

2. torri dros 200 hectar o rostir uwchben Llyn Efyrnwy i leihau'r risg o niwed i'r orgors gan dân ac i greu'r byrnau grug a ddefnyddir ar gyfer cau'r ffosydd.

3. codi ffens da byw ym Mhenaran ac wedi cyflwyno Gwartheg Duon Cymreig i bori'r safle o fis Mehefin i fis Hydref bob blwyddyn. 

4. clirio 250 hectar o goed o'r gorgors yn Penaran.

5. cronni 130,000m o ddraeniau planhigfa coedwigaeth yn Penaran.

6. clirio fwy na 11,300 o coed hunan hadu o'r gorgors oamgylch Llyn Efyrnwy.

Gwaith cymunedol

Mae rhan o'r gwaith a wneir gan y project yn y gymuned leol yn cynnwys darparu gwybodaeth am y project a threfnu digwyddiadau.  O fis Rhagfyr 2010, mae'r project wedi:

1. gosod dau banel gwybodaeth, un ger Llyn Efyrnwy ac un ar y Migneint er mwyn darparu gwybodaeth i bobl leol ac i ymwelwyr am y project.

2. arwain 57 o deithiau a digwyddiadau ger Llyn Efyrnwy gyda dros 779 o bobl yn cymryd rhan.

3. rhoi 43 o sgyrsiau gyda lluniau i dros 1020 o bobl o wahanol grwpiau yn cynnwys grwpiau lleol yr RSPB, clybiau garddio a fforymau mynediad lleol.

4. Wedi ymweld â 27 o ysgolion o fewn ardal y project, gyda 735 o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau.  O’r ymweliadau hyn, roedd 15 gyda dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg (257 o ddisgyblion) a’r 12 arall yn ddosbarthiadau iaith Saesneg (478 o ddisgyblion).

5. Cynhaliwyd ymweliadau â safle’r project gan 44 ysgol o fewn ardal y project, gyda 1103 disgybl yn cymryd rhan.  O’r ysgolion hyn a oedd yn ymweld, roedd 14 yn ddosbarthiadau cyfrwng y Gymraeg (300 o ddisgyblion) a 30 yn ddosbarthiadau cyfrwng y Saesneg (803 o ddisgyblion).

6. cynhyrchu Fideo, Taflen a Chylchlythyrau'r project, y gellir eu llwytho i lawr o'r dudalen Gyhoeddiadau.

Monitro

Rhoddwyd y gwaith o fonitro effaith y gwaith adfer ar y gweill yn ystod haf 2007 a bydd yn digwydd hyd o leiaf Mawrth 2011.  Hyd yma mae'r project wedi:

1. cwblhau'r arolwg llystyfiant cyntaf ger Llyn Efyrnwy yn 2007 ac mae'r ail flwyddyn newydd ddechrau.

2. cwblhau'r arolwg llystyfiant cyntaf ym Mhenaran yn 2008.

3. cychwyn ar y gwaith monitro hydrolegol ger Llyn Efyrnwy.

4. cwblhau'r ddwy flynedd gyntaf o fonitro trogod ger Llyn Efyrnwy.

Gwaith ymgynghorol

Mae'r project yn frwd dros hybu ymarfer da o ran rheoli'r orgors ledled ardaloedd y project.  I wireddu hyn mae'r project yn cysylltu gyda thirfeddianwyr lleol ac yn eu gwahodd i ddod i weld y project eu hunain.

1. Cynhyrchwyd cylchlythyrau ar gyfer 2007, 2008 a 2009 ac fe'u dosbarthwyd i bob tirfeddiannwr o fewn ardal y Project.  Gallwch lawrlwytho'r cylchlythyrau ar y dudalen Gyhoeddiadau.

2. Gwahoddwyd tirfeddianwyr o fewn y Berwyn a Mynyddoedd De Clwyd a Migneint-Arenig-Dduallt i ymweld â'r project.  Mae'r ymweliadau hyn yn digwydd yn ystod y cyfnod hwn. 

3. Ymwelodd Pwyllgor Rheolaeth Cymdeithas y Berwyn â'r project ym mis Mawrth 2008.

4. Ymwelodd Cymdeithas Ffermwyr Ifainc Sir Drefaldwyn â'r project ym mis Ionawr 2008.

5. Cynrychiolwyd y project yn Sioe Frenhinol Cymru 2008 lle lansiwyd y DVD a darparwyd gwybodaeth i unrhyw unigolyn a oedd yn dangos diddordeb yn y project neu yn yr orgors.

Arall

1. Cynhyrchwyd DVD y project ac fe'i lansiwyd yn Sioe Frenhinol Cymru 2008.

2. Mae'r ddau adroddiad blynyddol cyntaf wedi eu rhoi gerbron yr UE.

3. Mae ffotograffydd y project, David Woodfall wedi bod yn brysur yn tynnu lluniau ar gyfer y project.  Ewch i'r Oriel Ffotograffau i weld rhai o'i ddelweddau hyfryd.

4. Mae'r project yn awyddus i drafod y gwaith a wnaed yma a gan gyrff eraill sy'n gwneud gwaith tebyg.  Mae hyn wedi arwain at ymweliadau safle a arweiniwyd gan staff y project ac ymweliadau gan brojectau eraill â glannau Llyn Efyrnwy.

Mae'r rhain yn cynnwys ymweliadau â Moors for the Future, y Rhaglen Rheolaeth Dalgylch Cynaliadwy (ScaMP), Peatscapes, project LIFE Mawnogydd ar RSPB Forsinard, RSPB Geltsdale, project LIFE adfer gorgorsydd yn yr Iwerddon, LIFE adfer cyforgorsydd yr Iwerddon.

Cafwyd ymweliadau â'r project gan staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, RSPB Geltsdale, Peatscapes, Uned Polisi Amaethyddol yr RSPB, Cymdeithas Ecolegol Prydain, Pwyllgor Cynaladwyedd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Grŵp Ymchwil Asiantaeth Amgylchedd Cymru, Adran Gwasanaethau Technegol Cynulliad Cymru, United Utilities, Lloegr naturiol, tim swyddog cadwraeth Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar Cymru a'r Cymdeithas Tir a Busnes Ardal Wledig.

Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru

  Cynhadledd LIFE Gorgors Fyw Cymru Gwesty Llyn Efyrnwy 8 a 9 Mawrth 2011   Cliciwch Read More

LIFE ar Countryfile – eto

  Pedair blynedd yn ôl daeth Michaela Strachan a thîm BBC Countryfile draw i Lyn E Read More

Llyn Efyrnwy i Aberdeen

  Mae’r Project LIFE bron â dod i ben oherwydd bydd yn darfod ar 31 Mawrth 2011.&n Read More